News Centre

Diweddariad am yr eira - 8 Mawrth

Postiwyd ar : 08 Maw 2023

Diweddariad am yr eira - 8 Mawrth

Diweddariad am yr eira - argaeledd gwasanaethau'r Cyngor, cau ffyrdd ac ysgolion

Rydyn ni’n debygol o wynebu problemau pellach heno a dros nos oherwydd lefelau cynyddol o eira a gostyngiad yn y tymheredd.

Ffyrdd

Mae ein peiriannau graeanu yn parhau i weithredu bob awr o'r dydd, gan raeanu bron i 500km o briffyrdd ar draws 8 prif lwybr strategol. Mae gennym ni hefyd dros 900 o finiau graean at ddefnydd cymunedol ar ffyrdd bychain. Rhagor o wybodaeth yma - https://www.caerffili.gov.uk/services/roads-and-pavements/gritting-and-snow-clearing/when-and-where-we-grit?lang=cy-gb

Biniau ac ailgylchu

Mae'r rhan fwyaf o gasgliadau gwastraff ac ailgylchu wedi'u cwblhau ac rydyn ni’n bwriadu dal i fyny yfory ag unrhyw ardaloedd a gafodd eu colli heddiw (e.e. lonydd cefn, ffyrdd bychain anhygyrch ac ati), felly dylai trigolion adael unrhyw finiau allan na chawson nhw eu casglu.

Ysgolion

Roedd 76 o ysgolion ar gau heddiw yn dilyn asesiadau risg o bob safle. Cynghorir rhieni i gadw golwg ar ein gwefan yn y bore am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cymerwch ofal, yn enwedig os ydych chi’n teithio yn ystod yr oriau nesaf.

Diweddarwyd 5.45pm ddydd Mercher 8 Mawrth.



Ymholiadau'r Cyfryngau