Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Prydau ysgolion cynradd
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
Cyn-filwr yr Ail Ryfel Byd yn derbyn medal dyddiau cyn ei benblwydd yn 98 oed
News Centre
Cyn-filwr yr Ail Ryfel Byd yn derbyn medal dyddiau cyn ei benblwydd yn 98 oed
Postiwyd ar : 03 Maw 2023
Mae cyn-filwr yr Ail Ryfel Byd, a fydd yn dathlu ei benblwydd yn 98 oed ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth, wedi derbyn medal Rhyddhad Iseldiraidd am ei wasanaeth yn yr Iseldiroedd.
Aeth Dennis Stevens, sy'n byw yng Nghartref Gofal Parc Trafalgar, Nelson, i Woody's Lodge, Amelia Trust Farm yn y Barri, er mwyn cael ei gyflwyno gyda'i fedal. Roedd yna gyflwyniad ac araith yn portreadu ei amser yn ystod y rhyfel, wedi'i rhoi gan y Cyrnol Richard Piso, Attaché Milwrol.
Mae'r fedal Rhyddhad Iseldiraidd yn cael ei chyflwyno fel arwydd o ddiolchgarwch gan bobl o Deyrnas yr Iseldiroedd i'r dynion a menywod a gyfrannodd at ryddhau’r Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Dennis Stevens wedi gwasanaethu yng Nghwmni D yr 1/5ed Bataliwn y Gatrawd Cymru ar ôl cofrestru yn 1943. Ar ôl misoedd o hyfforddiant ac ymarferion, glaniodd Mr Stevens yn Gold Beach, Normandi, ym mis Mehefin 1944.
Fel rhan o'r 1/5ed Bataliwn yn y 53fed Adran, roedd Mr Stevens yn rhan o frwydr poced Falaise, i'r de o ardal Caen, ym mis Awst 1944, mewn beth mae haneswyr yn ei alw cyrch milwrol rhwygol Brwydr Normandi yn yr Ail Ryfel Byd.
O'r man yna, brwydrodd Dennis ei ffordd lan yn yr ymgyrch Gogledd-orllewin Ewrop tan iddo gyrraedd ffiniau'r Iseldiroedd. Pan oedd e yna, daeth yn rhan o weithrediad 'PHEASANT', a oedd wedi'i gynllunio i glirio'r Scheldt, sef afon a hefyd ardal delta fawr iawn, a’r rhan o'r Iseldiroedd a oedd wedi galluogi i borthladd Antwerp gael ei ddefnyddio gan gynghreiriaid ar gyfer cyflenwadau.
Roedd gweithrediad 'PHEASANT' wedi'i rhannu'n ddau is-weithrediad, gyda'r ffugenwau 'COLIN' ac ‘ALAN'. Rhoddodd gweithrediad ‘ALAN’ y dasg o glirio dinas ‘Den Bosch’ i’r 53fed Adran a’r 7fed Adran Arfog. Ar 22 Hydref 1944, cafodd bataliwn Dennis y dasg o glirio gogledd y ddinas a chipio Pont yr Afon Dieze, yr unig bont a oedd dal yn bodoli gan fod y gweddill wedi'u dinistrio gan yr Almaenwyr.
Yno, roedd rhaid i Mr Stevens wynebu'r 712fed Adran Troedfilwyr Wehrmacht, ar fore'r 24 Hydref. Cafodd y bont a wnaeth Dennis helpu i gipio ei ddinistrio ac, felly, cafodd ei orfodi i ildio i'r Almaenwyr.
Ar 27 Hydref, roedd Den Bosch wedi'i rhyddhau yn swyddogol o'r diwedd.
Yn ei ddyfyniad medalau, dywedodd y Cyrnol Richard Piso, Attaché Milwrol, "Er bod Saeson, Albanwyr a Gwyddelod yn rhan o'r 53fed Adran, roedd frwydr Den Bosch yn un Gymreig yn bennaf. I ni fel Iseldirwyr, Ymgyrch Alan oedd lle'r oedd y milwyr Cymreig wedi hynodi’u hunain, yno yn Rhyddhad ‘Den Bosch’.
"Rydyn ni yma heddiw oherwydd eich cyfraniad chi, annwyl Dennis, at ryddhau'r Iseldiroedd ac am yr amser rhoddaist ti obaith i Iseldirwyr, gobaith o fod yn rhydd eto rhyw ddydd, fel y digwyddodd ar 5 Mai 1945 hyd heddiw ymlaen!
"Bydd pobl Teyrnas yr Iseldiroedd yn parhau i fod yn ddiolchgar am byth, a bydden nhw byth yn anghofio'r dynion a'r menywod dewr a gymerodd rhan yn rhyddhad yr Iseldiroedd.
"Rwy'n eich saliwtio chi!"
Cafodd aduniad bach ei drefnu ar ddydd Gwener 3 Mawrth yng nghartref gofal Mr Stevens, lle gafodd ei gyflwyno ag anrheg gan gynrychiolwyr Cyngor Caerffili.
Meddai'r Cynghorydd Teresa Heron, Hyrwyddwr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Cyngor Caerffili, "Roedd yn bleser i gwrdd â Mr Stevens yng Nghartref Gofal Parc Trafalgar i ddathlu ei benblwydd yn 98 oed.
"Hoffwn i hefyd rhannu pa mor ddiymhongar yw e i glywed am ddewrder Mr Stevens yn ystod yr Ail Ryfel Byd a sut roedd ei gyfraniad wedi arwain at Ryddhad yr Iseldiroedd"
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion
Dros 9,000 o ymwelwyr yng Nghanol Tref Caerffili ar gyfer Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni
Hwb cymunedol, Libanus Lifestyle, yn cael cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghoed Duon a’r ardaloedd cyfagos
Wedi'i Chanslo - Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, Bargod
Tîm Cartrefi Gwag Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y