Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Prydau ysgolion cynradd
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
Ystafell Gwerthu a Marchnata yn agor ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr
News Centre
Ystafell Gwerthu a Marchnata yn agor ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr
Postiwyd ar : 09 Maw 2023
Mae Pobl Living wedi agor y drysau yn swyddogol i'w Hystafell Gwerthu a Marchnata newydd sbon ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr ac yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu cartref ar y safle i ddod i gael golwg o gwmpas y cartref arddangos hyfryd, sef ‘Humberstone’ â phedair ystafell wely.
Ar hyn o bryd, mae'r tîm Gwerthu yn cofrestru diddordeb ar gyfer y cartrefi cyntaf fydd yn cael eu cwblhau yn rhan o'r datblygiad. Mae disgwyl i'r rheini fod yn barod yn ystod haf 2023.
Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr mewn safle rhagorol yn agos i Barc Coffa Syr Harold Finch ym mhentref poblogaidd Pontllan-fraith.
Mae'r datblygiad newydd yn cynnwys 123 o gartrefi, gan gynnwys 40 o gartrefi ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely i'w gwerthu ar y farchnad agored, 40 o gartrefi rhanberchnogaeth fforddiadwy, a 43 o gartrefi fforddiadwy i'w rhentu.
Mae'r cynllun wedi'i ddylunio ar sail egwyddorion Pentref Gerddi, sy'n cyfuno dylunio traddodiadol â chrefftwaith cyfoes, a bydd yn creu lle bywiog ac iach i fyw.
Dywedodd Jo Read, Rheolwr Gwerthu a Marchnata, Pobl Living:
“Y cartref arddangos hardd hwn yw'r enghraifft ddiweddaraf o'r tai fforddiadwy o ansawdd uchel rydyn ni'n eu cynnig yn Pobl Living. Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i'w weld gyda'i lygaid ei hun ac i gael teimlad o'r lle nodweddiadol ac arbennig sydd ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr.”
Dywedodd James Duffett, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Lovell, “Mae'n wych gweld bod y cartref arddangos bellach ar agor er mwyn i bobl leol, sy'n chwilio am gartref, fynd o'i gwmpas. Mae ein tîm safle ni yn Lovell wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod y datblygiad hwn y gorau y gall fod, ac rydyn ni wrth ein boddau gyda pha mor dda mae'r gwaith adeiladu yn dod yn ei flaen. Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn enghraifft wych o waith partneriaeth gwirioneddol rhwng Pobl, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Lovell. Rydyn ni'n ysu i weld y preswylwyr cyntaf yn symud i mewn.”
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Dai, “Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud yn yr hyn a fydd yn ddatblygiad blaenllaw. Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Pobl a Lovell i gyflawni'r prosiect hwn, a fydd yn darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen mewn lleoliad dymunol yn y Fwrdeistref Sirol.”
Mae modd i unrhyw un sydd am weld y cartref arddangos alw heibio yn ystod yr oriau canlynol (nid oes angen apwyntiad):
Dydd Mawrth, 13:00–17:00
Dydd Mercher i ddydd Sadwrn, 11:00–17:00
Gallwch chi weld delweddau wedi'u cynhyrchu â chyfrifiadur o'r mathau o dai sydd ar gael, yn ogystal â map o'r safle,
ar wefan Pobl Living
.
Bydd taith fideo 3D o'r cartref arddangos hefyd ar gael i'w gweld yn y cartref arddangos yn fuan. I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf,
dilynwch Pobl Living ar Instagram
.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Apêl banc bwyd Nadoligaidd y Cyngor yn dal ar agor am roddion
Dros 9,000 o ymwelwyr yng Nghanol Tref Caerffili ar gyfer Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni
Hwb cymunedol, Libanus Lifestyle, yn cael cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghoed Duon a’r ardaloedd cyfagos
Wedi'i Chanslo - Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, Bargod
Tîm Cartrefi Gwag Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y