News Centre

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer canolfan i ddysgwyr agored i niwed Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 09 Maw 2023

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer canolfan i ddysgwyr agored i niwed Pontllan-fraith
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu canolfan newydd i ddysgwyr agored i niwed ar safle hen Ysgol Gyfun Pontllan-fraith.
 
Yn rhan o'r cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo, bydd y Cyngor yn addasu ac yn adnewyddu adeilad yr hen ysgol ramadeg ym Mhontllan-fraith i greu cyfleuster pwrpasol ar gyfer dysgwyr agored i niwed. Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys 10 gofod addysgu, ynghyd ag ystafelloedd grŵp llai, ystafell gyfarfod, ystafell staff, prif neuadd, cegin addysgu a chaffi.
 
Bydd adeilad newydd ar y safle yn cynnwys neuadd chwaraeon gyda 4 cwrt ac ystafelloedd newid, yn ogystal â man chwarae amlddefnydd awyr agored arfaethedig gydag arwyneb 3G.
 
Bydd y cyfleuster yn cynorthwyo rhwng 80 a 120 o ddysgwyr agored i niwed yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 gydag ystafelloedd dosbarth o ansawdd uchel, mannau ymyrraeth arbenigol, darpariaeth hamdden dan do ac awyr agored ar y safle, a fyddai hefyd ar gael at ddefnydd cymunedol y tu allan i oriau ysgol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau, “Yn ogystal â thrawsnewid adeilad gwag, bydd y cynlluniau hyn yn ein galluogi ni i ddarparu cyfleuster pwrpasol i ddiwallu anghenion ein dysgwyr agored i niwed ni yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd y cyfleusterau chwaraeon newydd hefyd yn dod â buddion i'r gymuned ehangach.”


Ymholiadau'r Cyfryngau