News Centre

Man chwarae antur awyr agored newydd Maenordy Llancaiach Fawr

Postiwyd ar : 01 Maw 2023

Man chwarae antur awyr agored newydd Maenordy Llancaiach Fawr
Mae man chwarae antur awyr agored newydd wedi agor yn y gyrchfan hanesyddol i dwristiaid, Maenordy Llancaiach Fawr, Nelson.
 
Mae'r man chwarae antur awyr agored yn cynnwys llwybr ffitrwydd i blant ei ddilyn.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd wedi llwyddo i sicrhau £35,000 o gyllid ychwanegol i gyflawni estyniad newydd i'r man chwarae drwy raglen Llywodraeth Cymru, y Pethau Pwysig 2021.
 
Yn dilyn proses tendro, cafodd y contract ei ddyfarnu i Sutcliffe Play Ltd ac mae'r parc chwarae nawr yn barod i'w ddefnyddio.  Mae'r estyniad yn cynnwys siglenni traddodiadol, rowndabowt, si-so ac offer sbringar i ymwelwyr ifanc eu mwynhau.
 
Mae mannau awyr agored Maenordy Llancaiach Fawr hefyd wedi'u gwella gyda meinciau newydd, giât newydd i'r ddôl a phlanhigion o amgylch y safle.
 
Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae'r man chwarae newydd yn ychwanegiad gwych i un o atyniadau i ymwelwyr poblogaidd y Fwrdeistref Sirol.  Mae anturwyr ifanc nawr yn gallu teithio yn ôl mewn amser yn y Maenordy, cyn gollwng ychydig o stêm yn yr awyr agored! 
 
“Mae Llancaiach Fawr yn cynnig rhywbeth i bob oed, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y gwelliannau awyr agored hyn yn annog rhagor o drigolion a thwristiaid i ymweld â'r gyrchfan unigryw hon.”

 
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau