News Centre

Perllan Gymunedol Newydd yn Nelson

Postiwyd ar : 24 Maw 2023

Perllan Gymunedol Newydd yn Nelson
Mae perllan gymunedol newydd wedi cael ei datblygu ym Maes Mabon, Nelson.
 
Roedd yn bosibl datblygu'r berllan, sy'n gynnwys coed gellyg, afalau a cheirios, diolch i fuddsoddiad gan Raglen Gwella'r Amgylchedd Safon Ansawdd Tai Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Roedd disgyblion ac athrawon o flwyddyn 3 a blwyddyn 4 yr ysgol leol, Ysgol Iau Llancaeach, wedi plannu'r coed, ochr yn ochr ag Arweinydd y Cyngor ac aelod ward lleol, y Cynghorydd Sean Morgan, a staff o'r timau Tai a Pharciau.
 
Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, "Mae'n wych i weld cymaint o frwdfrydedd gan y bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y plannu.  Yn ogystal â thrawsnewid y man gwyrdd hwn yn weledol, bydd eu hymdrechion yn rhoi coed sy'n ffrwytho am ddim er mwyn i'r gymuned leol gallu mwynhau am flynyddoedd lawer.  Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a gwneud y prosiect hwn yn bosibl."


Ymholiadau'r Cyfryngau