News Centre

Gweinidog yn plannu coeden yn y goedlan goffa

Postiwyd ar : 27 Maw 2023

Gweinidog yn plannu coeden yn y goedlan goffa
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi plannu coeden yng Nghwmfelinfach i nodi blwyddyn ers lansio'r goedlan goffa.
 
Cafodd ei chyhoeddi fel y drydedd goedlan goffa yng Nghymru gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ar 23 Mawrth 2022; i gofio am yr holl bobl a fu farw yn ystod y pandemig.
 
Ar y dyddiad a fyddai'n dair blynedd ers y cyfyngiadau symud cyntaf oherwydd coronafeirws, ymunodd Julie James AS â gwirfoddolwyr i blannu coed ar y safle sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd “Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn wrth i ni nodi’r drydedd flwyddyn ers y cyfnod cyfyngu symud cyntaf a meddwl am bawb sydd wedi colli teulu a ffrindiau.
 
“Hoffwn i ddiolch i Gyngor Caerffili am gynnig y safle hwn fel un o’n coetiroedd coffa yng Nghymru i greu coetir hardd, diogel a hygyrch lle gall pobl ymweld, cofio anwyliaid a threulio amser ym myd natur.
 
“Hoffwn i hefyd ddiolch i’r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i ddod heddiw i blannu coed i helpu i greu’r coetir newydd hwn, a allai ymhen amser ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Fannau Gwyrdd yng Nghyngor Caerffili, “Mae nodi tair blynedd yn atgof ingol o’r holl bobl a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig, a’r effaith ehangach a gafodd arnon ni fel cenedl.
 
“Rydyn ni'n falch o gynnig y man hwn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fel lle i fyfyrio a chofio.”


Ymholiadau'r Cyfryngau