News Centre

Llancaiach Fawr yn dathlu dwy wobr fawreddog gan Croeso Cymru

Postiwyd ar : 31 Maw 2023

Llancaiach Fawr yn dathlu dwy wobr fawreddog gan Croeso Cymru
Mae Llancaiach Fawr yn dathlu dwy wobr fawreddog gan Croeso Cymru.
 
Enillodd yr atyniad hanesyddol i ymwelwyr yng Nghaerffili'r wobr ‘Adrodd Stori Orau 2023 / 24’ a'r wobr categori newydd 'Bwyd a Diod o Ansawdd' yn ddiweddar, gan y Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr, wedi'i rhedeg gan Croeso Cymru, yn dilyn ymweliad cudd gan gorff rheoleiddio'r diwydiant twristiaeth.
 
Cafodd y safle ei ganmol am ei siop anrhegion drefnus, bwydlen caffi/bwyty rhagorol, defnyddio cynhwysion lleol a gwybodaeth ragorol y Dehonglwyr Hanesyddol sy’n tywys ymwelwyr o amgylch y faenor wedi’u gwisgo ac o ran cymeriad fel gweision y Cyrnol Pritchard sy’n hoffi dim byd gwell na i roi'r gorau i'w dyletswyddau a'u clecs am y meistr a'r feistres, gan ddod â hanes yn fyw!
 
Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon: “Hoffwn i longyfarch y tîm yn Llancaich Fawr am eu gwaith caled yn sicrhau’r gydnabyddiaeth hon gan Croeso Cymru – a darparu profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr sydd hefyd yn dod â'n hanes a'n diwylliant yn fyw. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cymryd amser dros wyliau’r Pasg i brofi Llancaiach Fawr.”
 
Meddai Lesley Edwards, y Rheolwr Cyffredinol, "Rydyn ni mor falch i gael ein cydnabod am y profiad cwsmeriaid unigryw rydyn ni'n ei roi".
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros dwristiaeth, "Rydw i wrth fy modd bod ein hatyniad ymwelwyr poblogaidd, Maenordy Llancaiach Fawr, wedi cael y gydnabyddiaeth mae'n ei haeddu".


Ymholiadau'r Cyfryngau