News Centre

Ysgol Lewis i Ferched yn cyflawni'r Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach

Postiwyd ar : 03 Maw 2023

Ysgol Lewis i Ferched yn cyflawni'r Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach
Ysgol Lewis i Ferched yw'r ysgol ddiweddaraf ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach.
 
Nod y cynllun yw hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc.
 
Mae'r cynllun yn cynnwys 7 maes:
 
  • Bwyd a ffitrwydd
  • Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol
  • Yr amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Datblygiad personol a pherthnasoedd
 
Ym mhob un o'r meysydd hyn, mae'n ofynnol i ysgolion ddangos eu bod nhw wedi cyrraedd safonau ymarfer uchel. Dyfernir Gwobr Ansawdd Genedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru i ysgolion sydd wedi cyrraedd y safonau uchaf ym mhob un o'r saith maes.
 
Meddai Mrs H. Harding, Pennaeth Ysgol Lewis i Ferched, “Rydyn ni'n falch o gyflawni'r Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach. Mae'r wobr yn cydnabod y pwyslais y mae Ysgol Lewis i Ferched yn ei roi ar ddatblygu pobl ifanc iach, emosiynol wydn a hyddysg iawn.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau, “Llongyfarchiadau i bawb dan sylw o ran y cyflawniad ardderchog, haeddiannol hwn. Mae Ysgol Lewis i Ferched wedi dangos ymrwymiad a chysondeb i ffyniant yr ysgol a'r gymuned gyfan.”


Ymholiadau'r Cyfryngau