News Centre

Cyngor Caerffili yn chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Gymanwlad 2023

Postiwyd ar : 13 Maw 2023

Cyngor Caerffili yn chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Gymanwlad 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o chwifio'r faner y tu allan i bencadlys y Cyngor, Tŷ Penallta, ar gyfer Diwrnod y Gymanwlad heddiw (13 Mawrth).
 
Thema Diwrnod y Gymanwlad 2023 yw ‘Sicrhau dyfodol cyffredin heddychlon a chynaliadwy’. Mae'r thema'n dod ag ymrwymiad gweithredol aelod-wladwriaethau at ei gilydd, i gynorthwyo hyrwyddo heddwch, ffyniant a chynaliadwyedd, yn enwedig trwy weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, er mwyn sicrhau dyfodol gwell i'n pobl ifanc a gwella bywydau holl ddinasyddion y Gymanwlad.

Mae Diwrnod y Gymanwlad 2023 yn nodi deng mlynedd ers llofnodi Siarter y Gymanwlad, a gafodd ei llofnodi gan Ei diweddar Fawrhydi, y Frenhines Elizabeth II, ar 11 Mawrth 2013.
 
Mae'r Cyngor yn cymryd rhan yn y dathliad byd-eang bob blwyddyn, gan ymuno â phob un o 52 gwlad y Gymanwlad yn chwifio'r faner yn falch fel arwydd o undod.
 
Drwy chwifio'r faner, rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad i:
 
“Drwy ymuno â’n gilydd fel aelodau o un gymuned fyd-eang y Gymanwlad, a thrwy werthfawrogi urddas personol a gwerth pob dinesydd, rydyn ni’n codi’r faner hon fel symbol o’r cysylltiadau o berthnasau a pherthnasedd rydyn ni’n eu hanwylo. Rydyn ni’n cael ysbrydoliaeth o'n hamrywiaeth, a'r cyfleoedd i weithio gyda'n gilydd, fel ffynhonnell gyfoeth o ddoethineb a dylanwad pwerus er daioni yn y byd. Rydyn ni’n cadarnhau ein hymrwymiad i gynnal y gwerthoedd a nodir yn Siarter y Gymanwlad, i wasanaethu ein gilydd mewn ysbryd o barch a dealltwriaeth, ac i hyrwyddo datblygiad, democratiaeth a chydweithredu’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau