Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
Nifer rhagorol o ymwelwyr i Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach, yn fwy na rhifau ymwelwyr blaenorol
News Centre
Nifer rhagorol o ymwelwyr i Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach, yn fwy na rhifau ymwelwyr blaenorol
Postiwyd ar : 31 Maw 2023
Cafodd canol tref Ystrad Mynach ei thrawsnewid ddydd Sadwrn diwethaf, 25 Mawrth, ar gyfer ail Ffair y Gwanwyn 2023.
Cafodd 8,247 o ymwelwyr eu croesawu, gyda’r niferoedd yn cyrraedd uchafbwynt o 1,302 o bobl am 1pm.
Roedd 6,511 yn fwy o ymwelwyr yn y dref o’i gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol, sef diwrnod prysuraf y flwyddyn hyd yn hyn. Roedd nifer o ymwelwyr Ffair y Gwanwyn eleni hefyd yn fwy na digwyddiad y Gwanwyn 2022.
Yn y ffair, roedd nifer o stondinau bwyd a chrefft, adloniant a reidiau ffair i blant, gan ei wneud yn ddiwrnod allan llawn hwyl i bawb. Roedd positifrwydd y digwyddiad o fudd mawr i ganol y dref, y manwerthwyr, a’r gymuned.
Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol am y digwyddiad:
Meddai busnes annibynnol, Memories, bod “Ysbryd cymunedol da, roedd wedi bodloni disgwyliadau, yn hyfryd i’r plant, roedd y sw anwesu a’r pantomeim yn boblogaidd iawn.”
Meddai Noel's Family Butchers, “Diwrnod gwych, yn fwy prysur nag arfer, roedd y dref yn brysur iawn.”
Meddai staff Llyfrgell Ystrad Mynach, “Fe wnaeth stondin grefftau Gwau a Sgwrs yn y llyfrgell yn arbennig o dda gan godi dros £180 at elusen!”
Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Digwyddiad prysur arall ac adborth cadarnhaol gan fusnesau. Daeth y trigolion allan yn llu unwaith eto. Bydd mwy o ddigwyddiadau, gyda phwyslais ar annog pobl i ganol trefi, yn helpu i gefnogi'r gymuned fusnes. Ga i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth”.
Cadwch y dyddiad yn rhydd ar gyfer ein digwyddiad nesaf, Gŵyl Fwyd Caerffili, sy'n digwydd ddydd Sadwrn 29 Ebrill.
Cafodd y digwyddiad hwn ei ariannu drwy Gyllid Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a'i drefnu gan Gyngor Caerffili. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw ennyn mwy o falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
I holi am ofod masnachu mewn unrhyw un neu ragor o ddigwyddiadau 2023 sy'n cael eu trefnu gan y Cyngor neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, e-bostiwch Digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Partneriaid yn arwain y ffordd i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn
Sefydliadau Caerffili wedi'u gwahodd i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cabinet Caerffili yn cymeradwyo darparu 1000 o gartrefi fforddiadwy newydd
Lluosi – Yn Lansio Heddiw!
Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2023, Joseph Coelho, yn ymweld â Llyfrgell Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y