Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
CBSC yn darparu cyfleoedd cyflogedig i unigolion sydd ag anableddau dysgu
News Centre
CBSC yn darparu cyfleoedd cyflogedig i unigolion sydd ag anableddau dysgu
Postiwyd ar : 03 Maw 2023
Cafodd Siop Goffi Parc Islwyn ei hagor gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol CBSC ym mis Mai 2022, gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd cyflogedig a gwirfoddol i unigolion sydd ag Anableddau Dysgu.
Rydyn ni wedi gweithio’n galed i ddatblygu disgrifiad swydd, cynorthwyo unigolion a’u teuluoedd i gwrdd ac ymgynghorwyr budd-daliadau yn ogystal â gweithio gydag AD i greu cytundeb cyflogaeth dros y misoedd diwethaf.
Enillodd pob unigolyn a oedd yn gwirfoddoli yn y siop goffi gymhwyster Hylendid Bwyd, Gwasanaeth Cwsmeriaid a hyfforddiant Barista, ac rydyn ni'n yn falch iawn bod 5 o’r unigolion bellach yn gyflogai CBSC ac yn cael eu talu i weithio yn y siop goffi, cyflawniad arbennig a’r cyntaf o’i fath i’r Cyngor.
Mae rhai o’r unigolion sydd nawr yn gweithio i’r siop goffi wedi sôn am ba mor wych ydy cael eu talu, ac mae ganddyn nhw gynlluniau mawr yn barod ynghylch sut i wario’r arian newydd maen nhw wedi ei ennill.
Meddai Hayley John, Uwch Swyddog Gwasanaethau Cymunedol “Rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd am yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni, ac mor hapus eu bod nhw wedi derbyn eu tâl cyntaf gan CBSC. Ni ellir diystyru'r teimlad o falchder a hunanwerth mae hyn wedi ei roi i’r unigolion a dylid dathlu hynny. Mae perthynasoedd wedi'u datblygu gyda chwsmeriaid, mae hyder yr unigolion wedi tyfu ac maen nhw wedi dod yn aelodau gwerthfawr o’n tîm staff.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Elaine Forehead, aelod cabinet dros ofal cymdeithasol “Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu darparu cyfleoedd cyflogedig a gwirfoddol yn Siop Goffi Parc Islwyn ar gyfer yr unigolion rydyn ni yn eu cynorthwyo. Mae’r siop goffi yn adnodd anhygoel ac mae’r unigolion yn creu naws cynnes a chyfeillgar. Mae’r gwaith cyflogedig a gwirfoddol yn dyst o angerdd ac ymroddiad dyddiol yr unigolion a’r staff, a byddwn i'n argymell i bawb ymweld â’r siop goffi a chwrdd y tîm.”
Pe hoffech chi ymweld â Siop Goffi Parc Islwyn, mae modd ei ganfod ar Llanarth Rd, Pontllan-fraith ger y parc sglefrio.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y