News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf ar Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd

Postiwyd ar : 10 Maw 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf ar Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi croesawu thema'r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd eleni, sef 'Llwyddo, nid Lluchio', gan roi gwobr o £500 i un o'i drigolion sy'n ailgylchu.

Mae Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd, sy'n rhan o ymgyrch Caru Bwyd Casáu Gwastraff, yn cael ei chynnal rhwng 6 a 12 Mawrth ac mae’n wythnos o weithredu sy’n dod â’r genedl ynghyd i arbed amser ac arian trwy wneud y mwyaf o’r bwyd sydd gennym ni eisoes.
 
Mae'r thema eleni, sef 'Llwyddo, nid Lluchio', yn cynnwys llysgennad enwog, ynghyd â thîm o ddylanwadwyr cyffrous ar y rhyngrwyd, ac yn taflu goleuni ar sut mae storio bwyd yn gywir yn gallu darparu ail (neu drydydd!) pryd bwyd am ddim.
 
Drwy gydol yr wythnos, mae Caru Bwyd Casáu Gwastraff yn postio cynnwys llawn hwyl ac addysgiadol ar gyfryngau cymdeithasol, a gyda chystadleuaeth neu ddwy, mae hyd yn oed mwy o siawns i chi deimlo fel enillydd!
 
Mae'r thema wedi cael ei chroesawu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sydd wedi gwobrwyo £500 i un o'i drigolion sy'n ailgylchu gwastraff bwyd.
 
Taryn Gillett o Fedwas yw degfed enillydd ymgyrch Gweddillion am Arian y Cyngor, lle mae tai’n cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis.

Cafodd ymgyrch Gweddillion am Arian y Cyngor ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda’r nod o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd nhw ar hyn o bryd. Mae'r Awdurdod Lleol yn gobeithio y byddai'r cynnydd o ran ailgylchu gwastraff bwyd yn arwain at leihau faint o sbwriel sy'n cael ei daflu, gan roi hwb i'r cyfraddau ailgylchu cyffredinol ac ategu ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a, thrwy hynny, gyfrannu at y nodau cenedlaethol a byd-eang o ran datgarboneiddio.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Hoffwn i ddweud llongyfarchiadau mawr i Ms Gillett ar ennill y wobr.
 
“Rydyn ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyrraedd ein nod o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.  Ailgylchu gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd mae ein trigolion ni yn gallu ein helpu i gyrraedd y targed hwn.”
 
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau