News Centre

Cyfundrefn torri gwair Caerffili yn hybu bioamrywiaeth

Postiwyd ar : 22 Maw 2023

Cyfundrefn torri gwair Caerffili yn hybu bioamrywiaeth
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i ddiwygio cyfundrefnau torri gwair, gyda'r nod o hybu bioamrywiaeth. 
 
Cymeradwyodd aelodau'r Cabinet fabwysiadu'r dull a gafodd ei ddefnyddio yn 2021/22 fel safon ar gyfer dyfodol torri gwair yn y Fwrdeistref Sirol.  Roedd hyn yn cynnwys gwneud cyn lleied â phosibl o waith torri gwair ar ymylon priffyrdd a ffyrdd osgoi, yn unol â chanllawiau Traffig Cymru.
 
Hefyd, gwnaethon nhw ymrwymiad i gefnogi ‘Mai Di-dor’, sef ymgyrch ledled y Deyrnas Unedig.  Mae hyn yn golygu bod y gwaith ffurfiol o dorri gwair ddim yn cychwyn tan fis Mehefin, ac eithrio lleiniau gwelededd ar briffyrdd, ymylon a mynediadau ar droedffyrdd/lwybrau beicio, meysydd chwarae, ardaloedd trefol megis ystadau tai, parciau, llety i bobl hŷn, mynwentydd, a mannau chwarae/hamdden agored, a fydd yn parhau i gael eu cynnal yn ôl yr amlder torri presennol.
 
Cafodd rhestr o'r ardaloedd a fydd yn cael eu gadael i ffynnu dros gyfnod yr haf ei chytuno, ynghyd ag ymrwymiad i roi pecynnau o hadau blodau gwyllt i grwpiau cymunedol ar gais.
 
Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Fannau Gwyrdd, "Roedd cynllun arbrofol y dull hwn yn y Fwrdeistref Sirol yn y gorffennol, gydag adborth cadarnhaol, gan gynnwys canmoliaeth gyhoeddus gan y naturiolwr Cymreig, Iolo Williams.
 
"Yn ogystal â hybu bioamrywiaeth yn ein dull o gynnal mannau gwyrdd, rydyn ni hefyd yn annog aelodau o'r cyhoedd i ymuno â ni ar gyfer ‘Mai Di-dor’ a chysylltu â ni am becyn i greu eu gwelyau flodau eu hun am ddim."


Ymholiadau'r Cyfryngau