News Centre

Cyngor Caerffili yn dechrau anfon contractau meddiannaeth newydd

Postiwyd ar : 08 Maw 2023

Cyngor Caerffili yn dechrau anfon contractau meddiannaeth newydd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dechrau anfon contractau meddiannaeth at unrhyw un sydd wedi dal tenantiaeth gyda Cartrefi Caerffili cyn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar 1 Rhagfyr 2022.
 
Nid oes angen i ddeiliaid contract (tenantiaid) wneud unrhyw beth oherwydd cafodd eu tenantiaeth ei ddisodli yn awtomatig gan y contract meddiannaeth pan gafodd y Ddeddf ei gweithredu. Mae copïau'n cael eu hanfon er mwyn i ddeiliaid contract eu cadw, ynghyd â thaflen yn amlinellu gwybodaeth allweddol.
 
Mae contractau'n cael eu hanfon fesul tipyn, felly ni fydd pob cartref yn eu cael nhw ar yr un pryd, ac mae disgwyl i'r contractau terfynol gael eu hanfon erbyn diwedd mis Ebrill.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yw'r newid mwyaf erioed i ddeddfwriaeth tai yng Nghymru. Rydyn ni'n deall bod y contract meddiannaeth yn gallu ymddangos yn hir a chymhleth, ond mae'n ofyniad cyfreithiol ac mae'n nodi cyfrifoldeb deiliaid contract a ninnau fel landlord.”
 
Mae modd i ddeiliaid contract y Cyngor a fyddai'n ffafrio cael y ddogfen mewn iaith neu fformat gwahanol, neu sydd â chwestiwn am y newidiadau, gysylltu â'u swyddfa tai leol ar 01443 873535 neu e-bostio RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk. Mae modd hefyd anfon y gair ‘contract’ mewn neges destun i 07919 627530 a bydd y Cyngor yn ffonio yn ôl. 


Ymholiadau'r Cyfryngau