Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
Cyngor Caerffili yn dechrau anfon contractau meddiannaeth newydd
News Centre
Cyngor Caerffili yn dechrau anfon contractau meddiannaeth newydd
Postiwyd ar : 08 Maw 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dechrau anfon contractau meddiannaeth at unrhyw un sydd wedi dal tenantiaeth gyda Cartrefi Caerffili cyn gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar 1 Rhagfyr 2022.
Nid oes angen i ddeiliaid contract (tenantiaid) wneud unrhyw beth oherwydd cafodd eu tenantiaeth ei ddisodli yn awtomatig gan y contract meddiannaeth pan gafodd y Ddeddf ei gweithredu. Mae copïau'n cael eu hanfon er mwyn i ddeiliaid contract eu cadw, ynghyd â thaflen yn amlinellu gwybodaeth allweddol.
Mae contractau'n cael eu hanfon fesul tipyn, felly ni fydd pob cartref yn eu cael nhw ar yr un pryd, ac mae disgwyl i'r contractau terfynol gael eu hanfon erbyn diwedd mis Ebrill.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yw'r newid mwyaf erioed i ddeddfwriaeth tai yng Nghymru. Rydyn ni'n deall bod y contract meddiannaeth yn gallu ymddangos yn hir a chymhleth, ond mae'n ofyniad cyfreithiol ac mae'n nodi cyfrifoldeb deiliaid contract a ninnau fel landlord.”
Mae modd i ddeiliaid contract y Cyngor a fyddai'n ffafrio cael y ddogfen mewn iaith neu fformat gwahanol, neu sydd â chwestiwn am y newidiadau, gysylltu â'u swyddfa tai leol ar 01443 873535 neu e-bostio
RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk
. Mae modd hefyd anfon y gair ‘contract’ mewn neges destun i 07919 627530 a bydd y Cyngor yn ffonio yn ôl.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y