News Centre

Caerffili yn ystyried camau tuag at ddyfodol gwyrddach

Postiwyd ar : 28 Maw 2023

Caerffili yn ystyried camau tuag at ddyfodol gwyrddach
Mae Cyngor Caerffili yn archwilio ffyrdd o roi hwb i gyfraddau ailgylchu a chreu bwrdeistref sirol wyrddach i bawb, fel rhan o strategaeth gwastraff ac ailgylchu uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.
 
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd targedau ailgylchu llym Llywodraeth Cymru, ac mae Caerffili yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn cyrraedd y targed presennol o 70%, yn ogystal â’r cyfraddau uwch byth sydd wedi'u cyhoeddi am y blynyddoedd sydd i ddod.
 
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, "Mae angen i ni fod yn feiddgar ac uchelgeisiol yn ein dull o weithredu i wella ein perfformiad ailgylchu cyfredol gan nad ydyn ni'n cyrraedd y gyfradd o 70%. Rydyn ni'n wynebu argyfwng hinsawdd byd-eang, felly, mae angen i ni gyd wneud rhagor i gael dull fyw glanach a gwyrddach, ac mae'n amlwg bod ailgylchu yn elfen allweddol o'r cydymdrech hwn. Mae gennym ni rwymedigaeth foesol tuag at ein plant a'n wyrion i wneud beth sy'n angenrheidiol er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu mwynhau planed gynaliadwy."
 
 
"Rydw i'n sylweddoli bod nifer o drigolion yn cydweithio gyda ni yn barod bob wythnos i ailgylchu gymaint â phosibl, ond mae angen gwneud rhagor. Nid yw gwneud dim byd yn opsiwn i ni. Mae angen i ni dargedu'r rhai sydd ddim yn ailgylchu ar hyn o bryd trwy waith ymgysylltu, addysgu a gorfodi lle bo'n briodol, yn ogystal ag edrych ar ein prosesau gweithredol. Mae strategaeth newydd yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd a fydd yn nodi'n glir ein cynlluniau am y blynyddoedd sydd i ddod a byddwn i'n annog i'r gymuned gweithio gyda ni i gynyddu ein  lefelau ailgylchu i le mae'n rhaid iddyn nhw fod," meddai wedyn.
 
Cafodd cyfarfod pwyllgor arbennig ei gynnal yr wythnos hon (dydd Llun 27 Mawrth) lle roedd cynghorwyr wedi trafod y strategaeth ddrafft o'r enw 'I 70% a thu hwnt 2023 - 2028'. 
Mae'r ddogfen ddrafft yn canolbwyntio ar 3 chanlyniad allweddol:
 
  • Sicrhau bod trigolion yn defnyddio'r cynhwysyddion ailgylchu cywir. Mae gormodedd o fwyd a deunydd ailgylchadwy yn cael eu rhoi mewn biniau gwastraff cyffredinol.
  • Sicrhau bod y deunydd sy'n cael ei gasglu o ansawdd uwch ac yn adnodd gwerthfawr.
  • Gwella perfformiad, cyfleusterau a phrofiad cyffredinol trigolion yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Mae'r strategaeth ddrafft wedi'i hysgrifennu yn ôl cyd-destun trafodaethau parhaus rhwng y Cyngor a thrigolion trwy ei raglen ymgysylltu 'Trafodaeth Caerffili', lle cytunodd 93% o ymatebwyr y dylai gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu gael eu blaenoriaethu o hyd wrth gynllunio gwasanaethau a chyllidebau ar gyfer 2022/23 a thu hwnt.
 
Dywedodd y Cynghorydd  Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydw i mor falch o'r ffordd mae ein trigolion wedi cofleidio ailgylchu dros yr 20 mlynedd diwethaf ac, ar un adeg, roedden ni'n un o'r goreuon. Mae ein dull casglu gwastraff yn parhau i fod yn boblogaidd o gymharu ag awdurdodau eraill.
 
Gallwn ni fod y gorau unwaith eto, bydd y newidiadau arfaethedig i ein casgliadau gwastraff gweddilliol yn cynyddu lefelau ailgylchu a chael gwared ar y bygythiad o angen newid o'n system casglu 'wedi'i gyfuno' cyfredol. 
 
Mae gennym ni dargedau ailgylchu cenedlaethol heriol, wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru, a'r agendâu ehangach o ran newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, wedi'u gosod gan Lywodraethau'r Deyrnas Unedig a Chymru.  Ymhellach, rydyn ni, fel cyngor, wedi datgan argyfwng amgylcheddol ein hun.”
 
Ychwanegodd, "Mae'r cynigion yn y strategaeth wedi'u cynllunio i gynyddu cyfranogiad gan newid gweithdrefnau'r gwasanaeth. Hoffwn ni weithio'n rhagweithiol i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i arbed, ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu mewn ymdrech i amddiffyn ein hamgylchfyd nawr ac yn y dyfodol."
 
Dros yr wythnosau nesaf, bydd gofyn i'r Cabinet gytuno ar 5 Ebrill i wneud ymgynghoriad cyhoeddus. Os mae hynny’n digwydd, bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 6 Ebrill 2023 ac yn rhedeg tan 19 Mai 2023. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn ogystal â chopïau printiedig ym mhob llyfrgell ledled y Fwrdeistref Sirol a chyfres o sesiynau galw heibio anffurfiol wyneb yn wyneb.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau