News Centre

Cabinet Caerffili yn Cytuno ar Fodel Newydd, Llwyddiannus y Gwasanaeth Ieuenctid

Postiwyd ar : 03 Maw 2023

Cabinet Caerffili yn Cytuno ar Fodel Newydd, Llwyddiannus y Gwasanaeth Ieuenctid
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i fabwysiadu'r model cyfunol newydd o waith ieuenctid yn ffurfiol, a oedd wedi ennill amlygrwydd a llwyddiant yn ystod y pandemig COVID-19. 
 
Mae'r dull cyfunol newydd, llwyddiannus o waith ieuenctid wedi bod ar waith am bron dair blynedd. Mae Cyngor Caerffili wedi rhoi cymorth i ffurfioli'r newidiadau hyn a'u gosod nhw fel egwyddor gweithredu craidd o ddull y Cyngor o waith ieuenctid.
 
Nod y model hwn yw cynnig darpariaeth gwaith ieuenctid craidd ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ôl anghenion, demograffeg, a daearyddiaeth yr ardal, wrth wella proffesiynoldeb staff a bodloni anghenion pobl ifanc, lle nad yw dull sy'n canolbwyntio ar ganolfan yn unig yn addas.
 
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad at y gwasanaethau perthnasol maen nhw'n eu hangen, felly, rydw i'n falch ein bod ni wedi adnabod yr angen i fodel llwyddiannus newydd gael ei fabwysiadu'n ffurfiol yn y Gwasanaeth Ieuenctid.
 
“Bydd y model newydd yn gwella'r gwaith amhrisiadwy mae ein Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu. Mae'n gwneud y gwasanaeth yn un aml-leoliad, gan adlewyrchu'r newid a rhoi i'r bobl ifanc y pethau maen nhw wedi gofyn amdanyn nhw, gan foddhau ein nod ni o fod yn gyffredinol ac yn agored i bawb."

I ddarllen yr adroddiad llawn a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet, ewch i: Formalising the Youth Service Model.pdf (caerphilly.gov.uk)
 


Ymholiadau'r Cyfryngau