News Centre

Cabinet Caerffili yn cymeradwyo dull o fynd i'r afael â chartrefi preifat gwag

Postiwyd ar : 09 Maw 2023

Cabinet Caerffili yn cymeradwyo dull o fynd i'r afael â chartrefi preifat gwag
Mae ystod o gynigion i fynd i'r afael â chartrefi preifat gwag wedi cael eu cymeradwyo'n unfrydol gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Yn ystod cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 8 Mawrth, fe wnaeth aelodau'r Cabinet gymeradwyo ‘Strategaeth Cartrefi Gwag y Sector Preifat 2023–2028’, sy'n nodi cynlluniau'r Cyngor i fynd i'r afael â’r nifer uchel o gartrefi preifat gwag yn y Fwrdeistref Sirol. Mae hefyd yn nodi'r amrywiaeth o fentrau sydd ar gael i'r Cyngor i helpu perchnogion i sicrhau bod eu cartrefi gwag nhw'n cael eu defnyddio eto.
 
Yn ogystal â chynnig cymorth trwy amrywiaeth o grantiau a benthyciadau, mae hefyd yn rhoi pwerau gorfodi i Dîm Cartrefi Gwag pwrpasol y Cyngor pe bai perchnogion cartrefi gwag hirdymor yn methu ag ymgysylltu.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae cartrefi gwag nid yn unig yn falltod amlwg yn ein cymunedau ni ac yn darged i ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond maen nhw hefyd yn adnoddau sy'n cael eu gwastraffu ar adeg pan fo'r angen am dai ar gynnydd.
 
“Mae'r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i atal y mater hwn, a mynd i'r afael ag ef, drwy gyflogi tîm pwrpasol o staff sy'n ymgysylltu'n frwd â pherchnogion cartrefi gwag yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnig cymorth cyffredinol a chymorth ariannol iddyn nhw.
 
“Fodd bynnag, ar ôl rhoi cynnig ar bob dull anffurfiol, bydd angen symud i ddull mwy ffurfiol trwy gamau gorfodi.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag, cysylltwch â thîm pwrpasol y Cyngor ar 01443 811378 neu TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk
 


Ymholiadau'r Cyfryngau