News Centre

Ysgol Gynradd y Bryn yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain

Postiwyd ar : 31 Maw 2023

Ysgol Gynradd y Bryn yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain
Yn ddiweddar, dathlodd Ysgol Gynradd y Bryn Wythnos Wyddoniaeth Prydain, sef dathliad 10 diwrnod o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Bu staff a myfyrwyr yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain rhwng 10 - 19 Mawrth, lle cafodd disgyblion ym mhob dosbarth y cyfle i gynllunio, archwilio ac adolygu archwiliad gwyddonol i arddangos mewn ffair gwyddoniaeth i ddangos eu sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Roedd disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen wedi cynllunio, archwilio ac adolygu prosiectau gwyddoniaeth bach megis tyfu berwr, arbrofi gydag arnofio a suddo, cylchredau bywyd ac archwilio hylifau a soledau. Dangosodd y disgyblion eu gwybodaeth wyddonol trwy gyflwyno eu hymholiadau gweithredol mewn ffordd ymarferol, gan annog aelodau eraill o'r gymuned i gymryd rhan.

Archwiliodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 y daith 'O'r Pridd i'r Plât', wrth i ddisgyblion blwyddyn 4 a 5 'malu stereoteipiau' gan sianelu eu dyfeiswyr mewnol a defnyddio sgiliau  peirianyddiaeth i ddylunio dyfais i "wneud bywyd yn haws". Roedd eu sgiliau codio yn wych!

Dewisodd y disgyblion ym mlwyddyn 6 gwestiwn gwyddonol yn annibynnol, ffurfio damcaniaeth a chreu dull, archwilio a gwerthuso eu hun. Roedd yna wir ymdeimlad o gyffro ac ymgysylltiad, yn enwedig pan aeth arbrofion yn anghywir a phan nad oedd y canlyniadau yn ôl y disgwyl! Roedd y disgyblion yn awyddus i ofyn 'pam' ac addasu'r proses i brofi eu damcaniaeth yn wir. Roedd y cyfle wedi  galluogi disgyblion i ddod yn fwy gwybodus am sut mae'r byd o'u cwmpas yn gweithio.

Rhannodd disgyblion blwyddyn 6 ganlyniadau eu harbrofion yn hyderus gyda'n cymuned leol, mewn dathliad o'u hymdrechion,  gan hybu sgiliau siarad cyhoeddus a rhoi hunanhyder.

Roedd y disgyblion ym mlwyddyn 6 wedi cael gwobr 1af, 2il a 3ydd safle ar sail eu harloesedd, cyflwyniad, gwaith tîm a'u hymateb i lwyddiant a methiannau.

Roedd y tîm buddugol, Fletcher a Cody (llun 1), yn awyddus i ddarganfod 'pa ddull sy'n creu'r ffrwydrad folcanig mwyaf?' Gwnaethon nhw ddyfalbarhau gan yn ail-wneud yr arbrawf nifer o weithiau a dysgu o gamgymeriadau a mireinio eu technegau. 

Yn yr ail safle oedd Casey, Ollie S a Lloyd (llun 2) a oedd yn awyddus i benderfynu 'Pa Haribo yw'r mwyaf poblogaidd ac ydy golwg yn effeithio ar y blas?' Gwnaethon nhw gofnodi ffefrynnau eu cyfoedion cyn ac wrth wisgo mwgwd am eu llygaid, syniad arloesol!

Yn y drydydd safle, roedd Ffion ac Isaac (llun 3) yn gyffrous i ddarganfod 'Ydy'r nifer o Mentos yn effeithio pa mor uchel yw'r ffrwydrad?' Gwnaethon nhw'r llanast mwyaf, mae hynny'n sicr!  Cawson nhw bwyntiau am gydweithrediad a chanlyniadau manwl! 


Ymholiadau'r Cyfryngau