Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2023
Ysgol Gynradd y Bryn yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain
News Centre
Ysgol Gynradd y Bryn yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain
Postiwyd ar : 31 Maw 2023
Yn ddiweddar, dathlodd Ysgol Gynradd y Bryn Wythnos Wyddoniaeth Prydain, sef dathliad 10 diwrnod o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Bu staff a myfyrwyr yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain rhwng 10 - 19 Mawrth, lle cafodd disgyblion ym mhob dosbarth y cyfle i gynllunio, archwilio ac adolygu archwiliad gwyddonol i arddangos mewn ffair gwyddoniaeth i ddangos eu sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
Roedd disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen wedi cynllunio, archwilio ac adolygu prosiectau gwyddoniaeth bach megis tyfu berwr, arbrofi gydag arnofio a suddo, cylchredau bywyd ac archwilio hylifau a soledau. Dangosodd y disgyblion eu gwybodaeth wyddonol trwy gyflwyno eu hymholiadau gweithredol mewn ffordd ymarferol, gan annog aelodau eraill o'r gymuned i gymryd rhan.
Archwiliodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 y daith 'O'r Pridd i'r Plât', wrth i ddisgyblion blwyddyn 4 a 5 'malu stereoteipiau' gan sianelu eu dyfeiswyr mewnol a defnyddio sgiliau peirianyddiaeth i ddylunio dyfais i "wneud bywyd yn haws". Roedd eu sgiliau codio yn wych!
Dewisodd y disgyblion ym mlwyddyn 6 gwestiwn gwyddonol yn annibynnol, ffurfio damcaniaeth a chreu dull, archwilio a gwerthuso eu hun. Roedd yna wir ymdeimlad o gyffro ac ymgysylltiad, yn enwedig pan aeth arbrofion yn anghywir a phan nad oedd y canlyniadau yn ôl y disgwyl! Roedd y disgyblion yn awyddus i ofyn 'pam' ac addasu'r proses i brofi eu damcaniaeth yn wir. Roedd y cyfle wedi galluogi disgyblion i ddod yn fwy gwybodus am sut mae'r byd o'u cwmpas yn gweithio.
Rhannodd disgyblion blwyddyn 6 ganlyniadau eu harbrofion yn hyderus gyda'n cymuned leol, mewn dathliad o'u hymdrechion, gan hybu sgiliau siarad cyhoeddus a rhoi hunanhyder.
Roedd y disgyblion ym mlwyddyn 6 wedi cael gwobr 1af, 2il a 3ydd safle ar sail eu harloesedd, cyflwyniad, gwaith tîm a'u hymateb i lwyddiant a methiannau.
Roedd y tîm buddugol, Fletcher a Cody (llun 1), yn awyddus i ddarganfod 'pa ddull sy'n creu'r ffrwydrad folcanig mwyaf?' Gwnaethon nhw ddyfalbarhau gan yn ail-wneud yr arbrawf nifer o weithiau a dysgu o gamgymeriadau a mireinio eu technegau.
Yn yr ail safle oedd Casey, Ollie S a Lloyd (llun 2) a oedd yn awyddus i benderfynu 'Pa Haribo yw'r mwyaf poblogaidd ac ydy golwg yn effeithio ar y blas?' Gwnaethon nhw gofnodi ffefrynnau eu cyfoedion cyn ac wrth wisgo mwgwd am eu llygaid, syniad arloesol!
Yn y drydydd safle, roedd Ffion ac Isaac (llun 3) yn gyffrous i ddarganfod 'Ydy'r nifer o Mentos yn effeithio pa mor uchel yw'r ffrwydrad?' Gwnaethon nhw'r llanast mwyaf, mae hynny'n sicr! Cawson nhw bwyntiau am gydweithrediad a chanlyniadau manwl!
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Partneriaid yn arwain y ffordd i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn
Sefydliadau Caerffili wedi'u gwahodd i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cabinet Caerffili yn cymeradwyo darparu 1000 o gartrefi fforddiadwy newydd
Lluosi – Yn Lansio Heddiw!
Bardd Plant Waterstones ar gyfer 2023, Joseph Coelho, yn ymweld â Llyfrgell Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y