Enwebiadau ar agor ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai
Postiwyd ar : 25 Maw 2022
Mae'r cyfnod enwebu i sefyll yn Etholiadau Llywodraeth Leol mis Mai bellach ar agor.
Cynhelir yr etholiadau ddydd Iau 5 Mai.
Os hoffech chi sefyll yn yr etholiad ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili neu eich ethol i Gyngor Tref neu Gymuned ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae gennych chi tan 4pm ddydd Mawrth 5 Ebrill i ddychwelyd eich papurau enwebu.
Peidiwch â gadael eich cyflwyniad tan y dyddiad cau.
Gellir cael papurau enwebu drwy www.caerffili.gov.uk/My-Council/Voting-and-elections/Sefyll-yn-yr-etholiad
Gellir dychwelyd y papurau enwebu yn bersonol drwy law neu drwy e-bost i etholiadau@caerffili.gov.uk