News Centre

Cymhwysedd prydau ysgol am ddim i FABANOD o fis Medi – rydym angen eich help!

Postiwyd ar : 11 Maw 2022

Cymhwysedd prydau ysgol am ddim i FABANOD o fis Medi – rydym angen eich help!

Mae’n bosibl bod rhieni a gwarcheidwaid plant oed ysgol gynradd ar draws bwrdeistref sirol Caerffili yn ymwybodol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.

Bydd y mesur pwysig hwn yn golygu y bydd 196,000 o blant ychwanegol ledled Cymru yn dod yn gymwys i fanteisio ar y cynnig o brydau ysgol am ddim.  Mae’r ymyriad trawsnewidiol hwn yn gam pwysig i fynd i’r afael â thlodi plant ledled Cymru ac i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn newynu.

Y bwriad yw i bob disgybl oed ysgol BABANOD gael y cyfle i dderbyn prydau ysgol am ddim o fis Medi 2022, gyda’r cynnig hwn yn cael ei ymestyn i blant oed ysgol iau o fis Medi 2023.

Mae'r cyngor yn gweithio gydag ysgolion i gael dealltwriaeth o gapasiti gweithluoedd a chyfleusterau cegin/bwyta ym mhob ysgol i allu darparu ar gyfer y newid sylweddol hwn… ac mae angen cymorth rhieni/gwarcheidwaid arnom i wneud hynny.

Fel rhan o gam un, mae angen i'r cyngor benderfynu faint o ddisgyblion oed BABANOD sy'n debygol o gael prydau ysgol am ddim o fis Medi 2022 ymlaen.

Bydd y ddolen isod yn cymryd rhieni a gwarcheidwaid disgyblion oed BABANOD (yn y lle cyntaf) i arolwg byr ar-lein a fydd yn ein galluogi i gasglu’r data angenrheidiol:

Arolwg casglu data ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid disgyblion oedran babanod a'u plant

Dywedodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Ross Whiting, “Rydym yn croesawu’n fawr benderfyniad nodedig Llywodraeth Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd ledled Cymru.

“Yn ogystal â’r manteision amlwg i’r plentyn a’r teulu ehangach, mae tystiolaeth yn cyfeirio at fanteision ehangach prydau ysgol am ddim, gan gynnwys codi proffil bwyta’n iach ar draws yr ysgol gyfan, cynyddu’r ystod o fwyd y mae disgyblion yn ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwelliannau i ymddygiad a chyrhaeddiad.

“Hoffwn felly alw ar rieni a gwarcheidwaid disgyblion oedran babanod i’n cefnogi drwy roi eu mewnbwn i’r ymarfer casglu data hwn, er mwyn i ni allu gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod capasiti yn ei le i allu cyflwyno’r cynllun gwaith pwysig hwn o fis Medi”.

Gofynnir i rieni/gwarcheidwaid a disgyblion oedran babanod i gwblhau’r arolwg byr erbyn dydd Gwener 25 Mawrth 2022.

Gellir dod o hyd i'r arolwg yma. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.caerffili.gov.uk

 
 



Ymholiadau'r Cyfryngau