News Centre

Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach yn llwyddiant ysgubol

Postiwyd ar : 25 Maw 2022

Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach yn llwyddiant ysgubol
Daeth 6,400 o ymwelwyr i ganol y dref yn ystod Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach.
 
Barnwyd bod y digwyddiad yn ‘llwyddiant ysgubol’ gyda nifer o fasnachwyr wedi gwerthu pob dim yn gynnar yn y prynhawn. Cafodd y plant hwyl fawr ar y reidiau ffair a chafodd yr adloniant stryd ymwelwyr yn rholio chwerthin.
 
Trawsnewidiodd digwyddiad y Gwanwyn ganol y dref gyda thua 25 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair i blant ac adloniant theatr stryd gwych.
 
Mae gan Ystrad Mynach ddewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae’n cynnig amrywiaeth o leoliadau i fwyta ledled y dref; gwelodd y digwyddiad manwerthwyr lleol yn elwa o'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr gyda dros 5,000 yn fwy o bobl wedi dod i’r dref o gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol.


Ymholiadau'r Cyfryngau