News Centre

Pobl ifanc yn cael dweud eu dweud ar chwaraeon yng Nghymru

Postiwyd ar : 30 Maw 2022

Pobl ifanc yn cael dweud eu dweud ar chwaraeon yng Nghymru
Mae'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, a ddechreuodd yn 2011, yn gyfle i blant a phobl ifanc ddweud eu dweud ar chwaraeon. 

Mae pob ysgol yng Nghymru yn cael ei gwahodd i gymryd rhan yn yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, a'r nod yw nodi agweddau, ymddygiad a chyfleoedd o ran chwaraeon fel rhan o'r ddarpariaeth yn yr ysgol, yn allgyrsiol ac yn y gymuned. Mae'r arolwg yn helpu deall pwy yw'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, ble maen nhw'n gwneud hynny a pha mor aml. 

Mae defnyddio llais disgyblion yn darparu mewnwelediad amhrisiadwy y mae modd ei ddefnyddio i ddylanwadu'n gadarnhaol ar iechyd a lles plant. Mae canlyniadau arolygon blaenorol wedi caniatáu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch nodi'r galw, mynd i'r afael â rhwystrau o ran cymryd rhan a ymyriadau yn y dyfodol.  

Rydyn ni'n annog pob ysgol a phlentyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i lenwi'r arolwg. Bydd yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2022 yn cael ei lansio ddydd Llun 28 Mawrth ac yn parhau tan ddydd Gwener 22 Gorffennaf. 

Drwy lenwi'r arolwg, bydd gan ysgolion fynediad at amrywiaeth o wybodaeth ddata benodol am iechyd a lles eu disgyblion. Bydd gan bob ysgol ddolen benodol i'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, felly, rydyn ni'n annog pob ysgol i gefnogi'r arolwg, ac annog disgyblion i'w lenwi. Bydd yn cymryd tua 15 i 20 munud i lenwi'r arolwg. Gall Chwaraeon Caerffili helpu ysgolion i lenwi'r arolwg, os oes angen. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, ewch i www.chwaraeon.cymru. I gael rhagor o wybodaeth am ba gyfleusterau chwaraeon a hamdden egnïol sydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i: www.caerffili.gov.uk/Things-To-Do/Sports-and-Leisure?lang=cy-gb 


Ymholiadau'r Cyfryngau