News Centre

Gwirfoddolwyr yn helpu i gadw Caerffili yn daclus

Postiwyd ar : 31 Maw 2022

Gwirfoddolwyr yn helpu i gadw Caerffili yn daclus
Mae ardal lle mae gollwng sbwriel yn gyffredin ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael ei lanhau'n llwyddiannus gan wirfoddolwyr.
 
Ymunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â Cadwch Gymru'n Daclus i drefnu digwyddiad Glanhau Cymunedol ym Mharc Lansbury a bu'n llwyddiant, gyda gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Ailgylchu i helpu i fynd i'r afael â sbwriel.
 
Yn ystod y sesiwn glanhau, gwelwyd bagiau o sbwriel yn ogystal ag eitemau wedi’u taflu fel trolïau siopa yn cael eu tynnu o'r ystâd dai a'u gwaredu'n gywir.
 
Dywedodd Rhodri Lloyd, Prif Swyddog Rheoli Gwastraff: “Hoffem ddiolch i'r trigolion hynny sy'n parhau i helpu i wneud ein bwrdeistref yn lanach ac yn wyrddach drwy ailgylchu mwy a lleihau sbwriel yn eu cymunedau lleol. Rydym ni fel Awdurdod yn chwilio’n gyson am ffyrdd arloesol o leihau gwastraff a gwella ein ffigurau ailgylchu, felly mae’n gymaint o drueni bod sbwriel yn dal i fod yn broblem mewn rhai ardaloedd.
 
“Rydyn ni’n fwrdeistref hardd gyda chymaint o fannau gwyrdd, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i’w gadw’n lân.”
 
Ydych chi’n awyddus i lanhau eich ardal leol ond heb yr offer cywir?
 
Mae Cadwch Gymru’n Daclus bellach wedi datblygu Hybiau Casglu Sbwriel Caru Cymru lle gall trigolion fenthyg popeth sydd ei angen arnynt am ddim. Mae eu rhwydwaith cynyddol o hybiau yn cynnig yr holl offer sydd ei angen arnoch i wneud gwaith glanhau diogel. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, festiau gweledol, bagiau sbwriel a chylchoedd (hanfodol ar gyfer cadw'ch bagiau ar agor mewn amodau gwyntog).
 
I gael rhagor o wybodaeth, oriau agor hybiau a manylion cyswllt ewch i:  Hybiau Codi Sbwriel - Cadw'ch Cymru'n Daclus - Caru Cymru


Ymholiadau'r Cyfryngau