News Centre

Yr wybodaeth ddiweddaraf am barciau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 21 Maw 2022

Yr wybodaeth ddiweddaraf am barciau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae nifer o barciau trefol a gwledig ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fin cael gwelliannau fel rhan o Fenter Glanach a Gwyrddach y Cyngor.
Mae Menter Glanach a Gwyrddach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn fenter gwerth £1 miliwn gyda’r nod o gynnal a chadw strydlun, mannau agored cyhoeddus a chefn gwlad.
Bydd gwelliannau yn cynnwys mentrau plannu coed mewn parciau ledled y Fwrdeistref Sirol a buddsoddiadau mewn pedwar peiriant tynnu chwyn newydd i helpu gwella agwedd weledol canol trefi a pharciau.
Mae Clwb Bowls Morgan Jones yng Nghaerffili wedi cael buddsoddiadau mawr gyda theils to newydd, byrddau ffasgia, byrddau soffit, cafnau dŵr ac ati a ffenestri UPVC wedi’u diweddaru yn cael eu gosod. Mae gwelliannau ychwanegol i Barc Morgan Jones hefyd ar y gweill, gan gynnwys gosod wyneb newydd ar lwybrau troed ac adeiladu wal newydd ar gyfer y cyrtiau tennis, a fydd yn arddangos gwaith brics “wyneb hapus” deniadol.
Glanhau canol trefi Rhymni, Bargod, Coed Duon, Caerffili. Mae’r gwaith yn Rhisga ac Ystrad Mynach yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac yn cynnwys cael gwared â chwyn, torri gordyfiant yn ôl, gosod biniau stryd newydd ac amrywiol atgyweiriadau i’r isadeiledd.
Esboniodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Yn ôl yn 2019, daethon ni yn ail o holl awdurdodau lleol Gwent i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Rhan o’r ymrwymiad hwn yw gofalu am y mannau gwyrdd sydd gennym ni yma yn y Fwrdeistref Sirol a chreu mannau glanach a gwyrddach i bawb ymweld â nhw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau