News Centre

Ysgol Uwchradd Islwyn yn agor ei drysau i fyfyrwyr Blwyddyn 11 yn ystod hanner tymor!

Postiwyd ar : 11 Maw 2022

Ysgol Uwchradd Islwyn yn agor ei drysau i fyfyrwyr Blwyddyn 11 yn ystod hanner tymor!
Yn ystod wythnos hanner tymor, fe wnaeth Ysgol Uwchradd Islwyn gynnig cyfres lawn o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i sicrhau bod holl fyfyrwyr Blwyddyn 11 yn cael pob cyfle i baratoi ar gyfer dychwelyd i arholiadau ffurfiol yr haf hwn.
 
Fe wnaeth y staff addysgu, y staff cymorth, yr Uwch Dîm Arwain a darparwyr allanol i gyd fynd yr ‘ail filltir’ drwy gynnal sesiynau yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer arholiadau, technegau adolygu, cydnerthedd a meithrin sgiliau, ac fe gafodd grwpiau ffocws pwnc-benodol eu cynnal ar gyfer Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth i roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddal i fyny mewn meysydd wedi'u heffeithio yn sgil y pandemig.
 
Roedd yr ysgol ar agor rhwng 8.30am ac 1pm bob dydd, fe gafodd cludiant ei ddarparu i'r myfyrwyr sy'n dibynnu arno i gyrraedd yr ysgol, ac roedd hyd yn oed ginio Domino's fel gwobr am fore o ymrwymiad.
 
Fe gafodd rhai o'r sesiynau eu cynnal yn neuadd arholi yr ysgol i geisio cael y disgyblion i ddod yn gyfarwydd â lleoliad nad ydyn nhw, o bosibl, wedi cael mynediad iddo ers mwy na dwy flynedd a lle mae angen iddyn nhw deimlo mor gyfforddus â phosibl yr haf hwn! Fe wnaeth llawer o'r myfyrwyr ddangos ymrwymiad gwych gan fynychu pob un sesiwn (a chael eu gwobrwyo â chardiau post oddi wrth y pennaeth), ac roedd dros 150 o fyfyrwyr yn bresennol yn ystod yr wythnos.
 
Meddai'r Prif Fachgen, Noah Williams, “Roedd hi'n wythnos dda iawn. Roedd yn gyfle i ganolbwyntio ar dechnegau adolygu ar gyfer arholiadau, ac yn caniatáu i mi gael help ychwanegol gan fy athrawon mewn pynciau sy'n peri her i mi; ac roedd y pizza yn wych hefyd!”
 
Hoffai'r ysgol ddiolch i'r holl staff dan sylw am gefnogi'r ddarpariaeth wych a'r rhieni am weithio gyda'r ysgol i sicrhau lefelau uchel o bresenoldeb. Mae Ysgol Uwchradd Islwyn yn hyderus y bydd y myfyrwyr yn barod ar gyfer dychwelyd i leoliadau arholi ffurfiol yn yr haf; nhw fydd y grŵp blwyddyn cyntaf i wneud hynny ers tair blynedd! 


Ymholiadau'r Cyfryngau