News Centre

Y cwmni pensaernïol rhyngwladol, Grimshaw, i greu prosiect nodedig

Postiwyd ar : 17 Maw 2022

Y cwmni pensaernïol rhyngwladol, Grimshaw, i greu prosiect nodedig
 Mae Cyngor Caerffili wedi llwyddo i benodi'r penseiri o fri byd-eang, Grimshaw, i ddylunio cyfnewidfa nodedig yng nghanol tref Caerffili fel rhan o gynlluniau adfywio sylweddol, a gefnogir gan raglen Llywodraeth Cymru, Trawsnewid Trefi.
 
Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydyn ni'n datblygu ac yn ehangu’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus drwy Fetro De Cymru a thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae disgwyl i gyfnewidfa newydd, fodern ac addas i'r diben yng Nghaerffili wasanaethu dros 1 miliwn o deithwyr bob blwyddyn.
 
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd  Philippa Marsden, “Mae gan dref Caerffili leoliad rhagorol yng nghanol cymoedd de Cymru ac mae ganddi safle treftadaeth o safon fyd-eang gydag un o gestyll canoloesol gorau Ewrop. Mae ganddi gysylltiad da â Chaerdydd a’r Brifddinas-Ranbarth ehangach ac mae gan y dref botensial enfawr ar gyfer twf. Mae gwella hwb cludiant canolog yn y dref yn sylweddol yn rhan hanfodol o'r fformiwla i'n helpu ni i ddatgloi ei photensial llawn.
 
Ychwanegodd, “Bydd ailfodelu llwyddiannus o'r gyfnewidfa yn gatalydd i gyfleoedd datblygu eraill yng nghanol y dref a bydd, ar yr un pryd, yn helpu tuag at newid dulliau teithio i drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd prosiect y gyfnewidfa yn helpu gosod y sylfaen i helpu'r dref oresgyn heriau economaidd ac ysgogi gweithgarwch pellach i wneud Caerffili yn ganol tref ffyniannus. Rydw i, felly, wedi fy nghyffroi’n fawr gan y prosiect hwn ac rydw i'n awyddus i weld cyfnewidfa drafnidiaeth enghreifftiol yn cael ei datblygu yng nghanol y dref.”
 
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, “Mae gwaith Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan ganolog yng nghynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu rhwydweithiau trafnidiaeth ledled y wlad wrth annog pobl Cymru i newid y ffordd y maen nhw'n teithio.
“Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd â’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â chyflawni’r gwaith hwn, ac rydw i’n hyderus y bydd y gyfnewidfa fodern, nodedig hon yn cynnig gwerth enfawr i bobl Cymru. Bydd y cyfleusterau newydd yn helpu unigolion i deithio’n ddi-dor rhwng bysiau, trenau, cerdded a beicio a’i gwneud yn llawer haws i bobl wneud dewisiadau teithio cynaliadwy a fydd o fudd i’n cymunedau a’n hamgylchedd ni.”
 
Dywedodd Rick Roxburgh, Pennaeth Cyswllt Grimshaw, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael ein dewis ar gyfer y prosiect trawsnewidiol hwn yng Nghaerffili ac yn rhannu uchelgeisiau Cyngor Caerffili a Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer hwb teithio llesol amlfodd ac enghreifftiol. Rydyn ni'n gyffrous i arwain y tîm dylunio [gan gynnwys Hoare Lea, OPS Structures a Momentum Transport] a dechrau’r cydweithredu hwn er mwyn darparu cyfnewidfa drafnidiaeth a fydd yn gwella cysylltedd y dref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a dod yn rhywbeth y mae pobl Caerffili yn wirioneddol falch ohono.”
 
Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer Caerffili 2035, ewch i https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/  


Ymholiadau'r Cyfryngau