News Centre

Cymeradwyo rhagor o gynlluniau datblygu ar gyfer y Stryd Fawr, Coed Duon

Postiwyd ar : 17 Maw 2022

Cymeradwyo rhagor o gynlluniau datblygu ar gyfer y Stryd Fawr, Coed Duon
Mae chwe fflat newydd wedi'u cymeradwyo i'w datblygu yn y Stryd Fawr, Coed Duon, Caerffili.

Mae gwaith adnewyddu'r swyddfeydd uwchben siopau ASA a New Mode wedi'i ganiatáu, gan drawsnewid y gofod gwag yn chwe fflat newydd.

Cafodd yr adeilad yn 195–197 Y Stryd Fawr, Coed Duon, hwb ariannol o £239,416 gan raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen ariannu yw cefnogi prosiectau adfywio sy'n hybu adfywio economaidd – creu swyddi, gwella sgiliau a chyflogadwyedd, a chreu'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a ffynnu.

Mae'r cyllid wedi'i anelu at sicrhau bod eiddo masnachol gwag yn cael ei ddefnyddio eto a bydd yn mynd i'r afael â'r gofyniad am arwynebedd llawr manwerthu a masnachol sy'n diwallu anghenion busnesau, trwy ddarparu cyllid llenwi bwlch ar gyfer meddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol gwag, i wella blaen adeiladau a sicrhau bod mannau ag arwynebedd llawr masnachol gwag yn cael ei ddefnyddio eto at ddefnydd busnes buddiol.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Hyd yma, rydyn ni wedi dyfarnu ychydig dros £920,000 i bedwar prosiect adnewyddu mawr yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys: Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned; BrewMonster Brew House; adeilad yr hen Store 21, Coed Duon; a 195–197 Y Stryd Fawr, Coed Duon.

“Mae adfywio yn allweddol i bopeth rydyn ni'n ei wneud yng Nghyngor Caerffili, i sicrhau bod ein cymuned fusnes yn cael ei chefnogi a'n bod ni'n adeiladu cymunedau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am fuddsoddiadau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ewch i: https://www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau