News Centre

Dyfarnu Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Postiwyd ar : 25 Maw 2022

Dyfarnu Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Mae Rhyddid Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i ddyfarnu i'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn swyddogol i anrhydeddu gwaith elusennol eithriadol y sefydliad sy’n cefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Dywedodd Christina Harrhy, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Ar ran y Cyngor a holl drigolion yr ardal, hoffwn i ddiolch i’r Lleng Brydeinig Frenhinol am eu cymorth diflino, eu hymroddiad a’u hymdrechion codi arian rhagorol sydd wedi bod o fudd i gynifer dros y ganrif ddiwethaf.

“Mae’n anrhydedd i ni roi Rhyddid Bwrdeistref Sirol Caerffili gan ei fod yn gydnabyddiaeth deilwng o’r cyfraniad eithriadol y maen nhw'n ei wneud i’n cymdeithas ni bob dydd.

“Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi bod yn bresenoldeb cyson a chalonogol i gynifer o bobl o fewn ein cymuned ni dros y ganrif ddiwethaf ac mae’n deg i ddweud y byddan nhw yno am lawer o flynyddoedd i ddod, gan gynnig yr un lefel anhygoel o gymorth i’r bobl hynny sydd ei angen fwyaf."

Mae gwasanaethau fel y Lleng Brydeinig Frenhinol yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod hawliau cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu diogelu a bod y pecynnau cymorth ar gael pan fo angen.

Dywedodd Ken Terry o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, “Fel cynrychiolydd Cymru ar Gyngor Aelodaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol, yn ogystal â thrigolyn yng Nghaerffili, mae’n bleser mawr i mi dderbyn yr anrhydedd mor fawreddog ar ran yr elusen heno.

“Mae gan y Lleng Brydeinig Frenhinol gyfeillgarwch hirsefydlog a pherthynas waith gref gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fel cyngor, rydych chi wedi bod yn wirioneddol glodwiw am sicrhau bod personél y lluoedd arfog lleol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Diolch i holl aelodau’r Cyngor hwn am yr anrhydedd hynod fawreddog hon.”

Bydd y seremoni wobrwyo i’r cyhoedd yn cael ei chynnal yn Crosskeys yn yr haf pan fydd y sgroliau a’r gasged yn cael eu cyflwyno’n ffurfiol i’r Lleng Brydeinig Frenhinol fel rhan o ddathliad cymunedol.



Ymholiadau'r Cyfryngau