News Centre

Tenantiaid newydd cyntaf Cyngor Caerffili yn symud i mewn i gartrefi

Postiwyd ar : 18 Maw 2022

Tenantiaid newydd cyntaf Cyngor Caerffili yn symud i mewn i gartrefi
Yn ddiweddar, symudodd tenantiaid i mewn i'r cartrefi cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ers 19 mlynedd.
 
Mae’r cartrefi, ar safle Bedwellty Field yn Aberbargod, yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cael eu rheoli ganddyn nhw.  Cawson nhw eu sicrhau drwy gytundeb Adran 106 gyda Llanmoor Homes, sef datblygwr y safle.
 
O blith datblygiad o 55 eiddo, mae 6 o gartrefi rhent cymdeithasol yn eiddo i'r Cyngor, ac yn cael eu rheoli ganddo, yn ogystal â 2 eiddo perchentyaeth cost isel a fydd yn cynnig cyfleoedd i brynwyr tro cyntaf.
 
Yn ddiweddar, ymwelodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, â Mr a Mrs Huxley, tenantiaid newydd yn y datblygiad. 

Dywedodd Mr Huxley, “Mae mor heddychlon a thawel yma mae wedi helpu problemau iechyd fy ngwraig. Mae symud i gartref newydd wedi newid bywydau ein teulu mewn gwirionedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Marsden, “Gyda galw'r cynyddol am dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol, mae dod o hyd i ystod o ddulliau i helpu diwallu’r angen hwn yn flaenoriaeth allweddol i ni.  Yn ogystal â gweithio gyda datblygwyr preifat, fel Llanmoor, rydyn ni hefyd wedi cychwyn ar ein taith gyffrous ein hunain o adeiladu cartrefi newydd arloesol gyda'r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni.
 
“Hoffwn i ddiolch i Mr a Mrs Huxley am y croeso cynnes y maen nhw wedi’i roi i mi heddiw a gobeithio y bydd ganddyn nhw ddyfodol hir a hapus yn eu cartref newydd nhw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau