News Centre

Awr Ddaear 2022 – Diffoddwch ar gyfer eich byd

Postiwyd ar : 22 Maw 2022

Awr Ddaear 2022 – Diffoddwch ar gyfer eich byd
Unwaith eto, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cefnogi Awr Ddaear ac yn gofyn i'n staff, busnesau a thrigolion ni ddiffodd unrhyw oleuadau nad ydyn nhw'n hanfodol am awr, rhwng 8.30pm a 9.30pm nos Sadwrn 26 Mawrth.

Mae Awr Ddaear yn fenter fyd-eang wedi ei threfnu gan y mudiad, World Wildlife Fund for Nature. Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn flynyddol, gan annog unigolion, cymunedau, a busnesau i ddiffodd goleuadau trydan nad ydyn nhw'n hanfodol, am awr, fel symbol o ymrwymiad i'r blaned.

Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl ledled y byd yn cymryd rhan ac, yn flaenorol, mae goleuadau tirnodau eiconig ledled y byd – gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm, Tŵr Eiffel, y Colosseum, y London Eye, Adeilad yr Empire State a Thŷ Opera Sydney – wedi'u diffodd fel rhan o'r digwyddiad.

Eleni, rydyn ni'n cydnabod yn fwy nag erioed bod Awr Ddaear yn digwydd yn ystod cyfnod heriol. Mae'n rhoi cyfle i ni gymryd eiliad mewn undod, gan ddod at ein gilydd i ddangos ein bod ni'n poeni am ddyfodol ein cartref ni, y blaned.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Awr Ddaear: www.wwf.org.uk/AwrDdaear


Ymholiadau'r Cyfryngau