Bydd y Cynllun yn cynnwys 2 elfen; prif gynllun (yn ymwneud â rhai talwyr treth y cyngor) a chynllun dewisol (dim manylion pendant am hyn eto).
Bydd y prif gynllun yn cynnwys taliad ‘Costau Byw’ o £150 i dalwyr treth y cyngor sy’n byw mewn eiddo bandiau A i D, a holl dalwyr treth y cyngor sy’n cael Gostyngiad Treth y Cyngor (sef 'budd-dal treth y cyngor' gynt), beth bynnag yw band eu heiddo (A i I).
Nid yw'r £150 yn ad-daliad ar fil treth y cyngor, mae'n daliad i helpu gyda chostau cynyddol yr holl filiau cyfleustodau.
Bydd UN taliad i bob cartref cymwys.
Bydd y prif gynllun yn cychwyn cyn gynted â phosibl ym mis Ebrill ond, gan y gallai tua 70,000 o aelwydydd o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili fod yn gymwys, bydd taliadau'n cymryd sawl mis i'w cwblhau. Rydyn ni'n disgwyl i’r cynllun yng Nghymru redeg am tua 6 mis.
Os ydych chi'n talu eich treth y cyngor chi drwy ddebyd uniongyrchol, rydyn ni'n disgwyl y bydd modd gwneud y taliad yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc chi, heb fod angen i chi gofrestru eich manylion chi gyda ni.
Ar gyfer yr holl dalwyr treth y cyngor cymwys eraill, bydd cynllun Llywodraeth Cymru yn gofyn am broses gofrestru drwy wefan y Cyngor fel y gallwn ni gasglu manylion eich cyfrif banc chi. Bydd angen gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer y bobl hynny nad oes ganddyn nhw fynediad at y rhyngrwyd a/neu lle nad oes ganddyn nhw gyfrif banc addas.
Mae'n debyg y bydd trethdalwyr sy'n cael eu heithrio rhag talu'r dreth (er enghraifft, cartref sy'n cynnwys myfyrwyr cymwys yn gyfan gwbl, y rhai sy'n gadael gofal hyd at 25 oed, neu bobl â nam meddyliol difrifol) yn dod o dan yr elfen ddewisol o'r cynllun.
Byddwn ni'n sicrhau bod rhagor o wybodaeth ar gael unwaith y byddwn ni wedi cael y manylion terfynol gan Lywodraeth Cymru ac ar ôl i ni benderfynu ar y ffordd orau o weithredu prif elfen ac elfen ddewisol y cynllun.
Rydyn ni'n annog trigolion i fod yn ystyriol o e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn o ffynonellau amheus sy'n cynnig gwybodaeth am y cynllun, oherwydd gallai hyn fod gan rywun sy'n ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol chi, megis manylion eich cyfrif banc chi.
Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cymorth Costau Byw