News Centre

Yn galw ar holl arwyr sbwriel Caerffili – mae Gwanwyn Glân Cymru yn ôl!

Postiwyd ar : 22 Maw 2022

Yn galw ar holl arwyr sbwriel Caerffili – mae Gwanwyn Glân Cymru yn ôl!
Mae pobl yng Nghaerffili ac ar draws Cymru yn cael eu hannog i helpu diogelu'r amgylchedd ac ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2022, sydd yn dangos bod gweithredoedd bach ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda'i gilydd, maent yn galw ar unigolion, aelwydydd ac ysgolion i lanhau'r strydoedd, y parciau neu'r traethau ar eu stepen drws rhwng 25 Mawrth a 10 Ebrill.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal digwyddiad Glanhau Cymunedol ym Mharc Lansbury ar 25 Mawrth. Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Glanhau Cymunedol i helpu mynd i'r afael â sbwriel yn yr ystâd dai a'r cyffiniau.

Bydd y tîm yn cwrdd y tu allan i Swyddfa Dai Parc Lansbury, CF83 1QU, am 10.30am fore Gwener 25 Mawrth.
Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Caru Cymru – y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff. Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: “Ers dechrau'r pandemig, mae ein mannau awyr agored wedi bod yn bwysicach nag erioed o'r blaen i ni. Maent wedi bod yn noddfa mewn cyfnod heriol.

“Ond eto, mae sbwriel yn dal yn bla yn ein mannau gwyrdd, ar ein strydoedd a'n traethau ar draws Cymru, yn costio miliynau i ni ei godi ac, yn anffodus, yn niweidio ein bywyd gwyllt lleol hefyd.

“Rydym yn annog pawb ar hyd a lled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru eleni a gwneud addewid i godi sach neu fwy o sbwriel. Gwyddom fod cymryd rhan yn yr awyr agored yn dda i'n hiechyd a'n hamgylchedd. Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Mae Gwanwyn Glân Cymru hefyd yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr eleni. Gofynnir i wirfoddolwyr wneud addewid ynghylch sawl sach y byddant yn eu casglu a sawl munud y byddant yn eu treulio yn glanhau eu hardal leol.

I wneud addewid a chymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru


Ymholiadau'r Cyfryngau