News Centre

Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi menter newydd i annog ailgylchu gwastraff bwyd

Postiwyd ar : 07 Maw 2022

Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi menter newydd i annog ailgylchu gwastraff bwyd
Mae'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi cyhoeddi menter newydd a fydd yn gyfle i drigolion ennill £500 tuag at eu biliau ynni yn gyfnewid am roi eu cadi gwastraff bwyd allan i'w gasglu bob wythnos.
 
Nod y fenter “Arian am Weddilion” yw cynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd; ar hyn o bryd, mae tua 40% o drigolion y Fwrdeistref Sirol yn gwneud hyn. Mae'r Awdurdod Lleol yn gobeithio y byddai'r cynnydd o ran ailgylchu gwastraff bwyd yn arwain at leihau faint o sbwriel sy'n cael ei daflu, gan roi hwb i'r cyfraddau ailgylchu cyffredinol ac ategu ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a, thrwy hynny, gyfrannu at y nodau cenedlaethol a byd-eang o ran datgarboneiddio.
 
Bydd y fenter a fydd yn cael ei lansio ar 7 Mawrth ac yn rhedeg drwy gydol 2022 yn gweld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, gyda phob enillydd yn derbyn £500.
 
Gyda biliau ynni blynyddol i fod i godi £693 ar gyfartaledd ym mis Ebrill fe allai'r wobr ariannol helpu i leddfu mwyafrif y cynnydd i drigolion, ond bydd modd i'r enillydd ddewis sut i ddefnyddio'r arian.
 
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael 50c y dunnell am wastraff sy'n cael ei gasglu ar gyfer treulio anaerobig, sy'n golygu bod modd i'r cynllun fod yn hunangynhaliol oherwydd bydd y tunelli ychwanegol o wastraff bwyd sy'n cael ei gasglu yn cynhyrchu'r enillion bob mis.
 
Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Rydw i wrth fy modd i gyhoeddi'r fenter hon; rydyn ni'n credu mai hon yw'r fenter gyntaf o'i math. O ystyried y cynnydd o ran biliau ynni ar hyn o bryd, rydyn ni'n edrych ymlaen at allu ailddosbarthu arian cyhoeddus yn ôl i'r gymuned yn y modd hwn, gyda'r gobaith o ailgylchu mwy o wastraff bwyd ar yr un pryd.”
 
Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Rydyn ni wrth ein bodd i allu cynnig y fenter hon i'n trigolion ni.
 
“Ar hyn o bryd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r trydydd gorau yn y wlad o ran deunyddiau ailgylchadwy sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd bob wythnos (tua 80% o drigolion). Fodd bynnag, mae'r lefelau cymharol isel o ran ailgylchu gwastraff organig yn effeithio ar ein ffigurau perfformiad ailgylchu cyffredinol – y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd, yn benodol, lle mae lefelau cyfranogiad yn isel.
 
“Rydyn ni'n hyderus y bydd y fenter hon yn ysgogi mwy o bobl i ailgylchu gwastraff bwyd ac yn rhoi hwb i'r ffigurau ailgylchu yn gyffredinol.”
 
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau