News Centre

Cyngor Caerffili yn addo help i Wcráin

Postiwyd ar : 18 Maw 2022

Cyngor Caerffili yn addo help i Wcráin
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi addo ei ymrwymiad i helpu pobl Wcráin.

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, wedi awgrymu Hysbysiad o Gynnig yn ystod cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 16 Mawrth, ac mae'r Cyngor wedi cytuno i'r Cynnig.

Mae’r Cynnig yn nodi ymrwymiad y Cyngor i:
  • Cydnabod dioddefaint a phenderfyniad pobl Wcráin a'r rhai sydd â chysylltiadau agos ag Wcráin.
  • Condemnio'r ymosodiad milwrol disymbyliad ac annerbyniol ar Wcráin gan Ffederasiwn Rwsia a Belarws.
  • Cynnig cymorth, os oes angen, drwy wasanaethau presennol y Cyngor, i bawb sydd ag aelodau o'u teulu yn Wcráin a'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio.
  • Croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dderbyn ffoaduriaid o Wcráin a’i phenderfyniad i dderbyn a helpu ffoaduriaid o fewn y Fwrdeistref Sirol.
  • Annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos tosturi drwy hepgor gofynion fisa ar gyfer dinasyddion Wcráin sy'n ceisio lloches rhag y gwrthdaro milwrol.

Dywedodd y Cynghorydd Marsden “Mae’r ymosodiad milwrol parhaus ar Wcráin gan Ffederasiwn Rwsia a Belarws wedi achosi sioc a phryder ledled y byd.  Mae wedi tanseilio heddwch byd-eang ac yn cynrychioli ymosodiad sylfaenol ar ddelfrydau a gwerthoedd democrataidd.

“Bydd y rhyfel hwn, fel pob rhyfel, yn achosi niwed, ofn a dioddefaint anghymesur i sifiliaid.  Mae’r Cynnig hwn yn nodi ymrwymiad clir Caerffili i sefyll mewn undod â phobl Wcráin ac i gynnig ein cefnogaeth ni i’r rhai sy'n cael eu heffeithio gan yr erchyllterau sy’n digwydd ar hyn o bryd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau