Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Canolfannau Hamdden
Casgliad bin wedi'i golli
Cymorth i Wcráin
Swyddi a hyfforddiant
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Cefnogaeth a chyngor am Gostau Byw
Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2022
Gofalu am Gaerffili
News Centre
Gofalu am Gaerffili
Postiwyd ar : 23 Maw 2022
Mae'r gwasanaeth gofal a gafodd ei ddatblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod anterth y pandemig bellach yn dathlu blwyddyn o weithredu.
Mae ethos Gofalu am Gaerffili yn ymwneud â pherthynas sy’n newid gyda’n trigolion a’n cymunedau ni; mae’n ymwneud â defnyddio asedau o fewn cymunedau, hyrwyddo annibyniaeth a chynyddu rheolaeth pobl dros eu bywydau eu hunain.
Ers ei sefydlu, mae Tîm Dyletswydd Gofalu am Gaerffili wedi cael dros 1,200 o alwadau ffôn a 500 o negeseuon e-bost yn gofyn am help. Mae'r tîm wedi gwneud 330 o atgyfeiriadau i bartneriaid a gwasanaethau priodol i ddarparu cymorth perthnasol. O'r 1,200 o alwadau mae'r Cyngor wedi'u cael, mae dros 850 wedi bod yn uniongyrchol gan drigolion sydd wedi clywed am y gwasanaeth dros y misoedd diwethaf.
Yn ogystal â'r cymorth dyddiol un i un sy'n cael ei ddarparu gan y tîm, mae cymorth hefyd i helpu'r Tîm Budd-daliadau i gymryd galwadau am y Grant Hunanynysu a'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn ogystal â helpu pobl gyda chludiant i gael eu brechiadau nhw.
Mae nifer o themâu allweddol wedi’u nodi drwy lwythi achosion hyd yma, a’r rhai mwyaf cyffredin yw:
Ansicrwydd ariannol
Iechyd meddwl (pob haen)
Profedigaeth
Symudedd corfforol
Dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol
Ffibromyalgia
Gordewdra
Ynysu
Cam-drin domestig
Os na chafodd Gofalu am Gaerffili ei weithredu, mae'n debygol y byddai'r pwysau ar wasanaethau eraill y Cyngor wedi bod yn llawer uwch. Efallai nad yw'n glir ar hyn o bryd, ond os na chafodd Gofalu am Gaerffili ei wedi'i roi ar waith, gallai dros 1,700 o bobl fod wedi 'llithro drwy'r rhwyd', ni fyddai incwm 788 o bobl wedi'i uchafu a byddai dros 2,000 o bobl heb gael bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn amlygu pa mor bwysig yw ein Tîm Gofalu am Gaerffili ni i'r gymuned. Mae’r tîm yn cynnig gwasanaeth brysbennu i'r trigolion hynny yn y Fwrdeistref Sirol sydd angen cymorth ar gyfer materion fel tlodi bwyd, dyledion neu ôl-ddyledion rhent, ynysu neu unigrwydd a llawer mwy.”
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma:
https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s38871/CC%20Evaluation%20Scrutiny%20report%208.3.22.pdf?LLL=0
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Mynediad at e-bapur newydd am ddim i aelodau Llyfrgelloedd Caerffili
Cynlluniau Trawsnewid yn creu argraff ar y Gweinidog.
Mae'r Swyddfa Dywydd – rhybudd tywydd Melyn ar gyfer gwyntoedd cryfion
Cyngor Caerffili yn gofyn i denantiaid roi barn ar eu rhent
Anrhydeddu sêr-wirfoddolwyr mewn seremoni wobrwyo fawreddog
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y