News Centre

Cabinet yn cytuno ar ddull cymorth tai ar gyfer y dyfodol

Postiwyd ar : 23 Maw 2022

Cabinet yn cytuno ar ddull cymorth tai ar gyfer y dyfodol
Heddiw (23 Mawrth), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo ‘Rhaglen Cymorth Tai 2022–2026’, sy'n nodi ei ddull ar gyfer y dyfodol o ran atal digartrefedd a darparu gwasanaethau cymorth tai.

Mae'r Cyngor wedi cynnal asesiad cynhwysfawr o anghenion, wrth ddatblygu'r rhaglen, i nodi ei gryfderau o ran darparu gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, yn ogystal â'r meysydd hynny lle mae angen gwneud rhagor o waith.

Dyma egwyddorion allweddol y rhaglen:
  • Sicrhau bod mynediad at wasanaethau cymorth yn gyflym ac yn dryloyw a bod partneriaid yn mynd ati i atal digartrefedd lle bo modd.
  • Bydd y Cyngor yn mynd ati i sicrhau bod gan bawb fynediad at lety teg ac addas sy'n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn effeithlon o ran ynni.
  • Bydd mynediad at gyngor a chymorth ar gael yn rhwydd ar draws nifer o lwyfannau er mwyn i bobl allu deall pa hawliau sydd ganddyn nhw o ran tai a pha wasanaethau cymorth sydd ar gael i'w galluogi nhw i gael mynediad at dai o ansawdd da a chymorth cysylltiedig.
  • Bydd llwybrau cyfeirio perthnasol ar waith i ganiatáu mynediad at wybodaeth fel bod pobl yn cael eu grymuso, lle bo hynny'n ymarferol, i helpu eu hunain. 

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae atal digartrefedd a darparu tai cynaliadwy yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor. Mae'r rhaglen yn adeiladu ar gyflawniadau sylweddol gwasanaeth cymorth tai y Cyngor, ond hefyd yn cydnabod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i atal digartrefedd, a mynd i'r afael ag ef, ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid ac ehangu ein gwasanaethau i sicrhau ein bod ni'n diwallu'r amrywiaeth eang o anghenion sydd gan y bobl hynny sydd angen cymorth.”


Ymholiadau'r Cyfryngau