Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mawrth 2022
Pennod newydd i Lyfrgell Deri
News Centre
Pennod newydd i Lyfrgell Deri
Postiwyd ar : 23 Maw 2022
Mae staff llyfrgelloedd Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn gweithio'n galed i drawsnewid rhan o ganolfan gymunedol leol yn llyfrgell dros dro ar ôl i storm Eunice ddifrodi llyfrgell boblogaidd.
Achosodd Storm Eunice, a arweiniodd at rybudd tywydd coch mewn ardaloedd o Fwrdeistref Sirol Caerffili, ddifrod sylweddol i Lyfrgell Deri, ond nid yw hynny wedi stopio'r staff rhag darparu’r gwasanaeth gwerthfawr mewn lleoliad ar y cyd.
Bydd gwasanaethau llyfrgell, gan gynnwys presenoldeb staff y llyfrgell, detholiad bach o stoc llyfrau i'w bori, ceisiadau am stoc llyfrgell, dychweliadau a chasgliadau a llungopïo, ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Deri ar ddydd Llun a dydd Mercher rhwng 9.30am a 1.00 a 2.00pm a 6.00pm.
Bydd prif neuadd y ganolfan gymunedol hefyd yn cael ei defnyddio cyn bo hir i sicrhau y gall sesiynau megis Amser Rhigymau, Amser Twdlod a chymorthfeydd yr Heddlu i gyd barhau.
Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, “Er bod Llyfrgell Deri yn un o’n llyfrgelloedd llai o faint ni, mae’n un o’r rhai mwyaf prysur ac annwyl i ni. Rydyn ni'n hapus iawn i allu parhau i gynnig gwasanaethau llyfrgell i’n cwsmeriaid arferol ni ac i aelodau’r cyhoedd er gwaethaf y difrod i'r llyfrgell. Rydw i'n falch iawn o’r staff a phopeth y maen nhw'n parhau i’w wneud i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n trigolion ni; maen nhw'n ymgorffori'n wirioneddol ethos Tîm Caerffili.”
Dywedodd Judith Jones, defnyddiwr Llyfrgell Deri: “Dydw i ddim yn byw yn Deri bellach ond dw’i dal i ymweld â’r llyfrgell bob wythnos. I fi, mae’r llyfrgell yn ymwneud â mwy na llyfrau, mae’n rhywle i ddod, treulio amser a gweld ffrindiau.”
Dywedodd Julie Thomas, Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Deri, “Rydyn ni i gyd yn falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi gallu ei gyflawni yma yng Nghanolfan Gymunedol Deri. Er nad ydyn ni’n gallu darparu’r holl wasanaethau y mae’r llyfrgell yn eu cynnig, rydyn ni'n sicr yn gwneud y defnydd gorau o’r gofod a’r cyfleusterau sydd ar gael i ni. Diolch yn fawr iawn i bwyllgor adfywio’r ganolfan gymunedol am fod mor gymwynasgar a chroesawgar.”
I gael rhestr lawn o’n gwasanaethau ni, ewch i www.caerffili.gov.uk/cy neu ffonio 01443 864068
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y