News Centre

Arolwg Cyhoeddus o Ymwelwyr â Chanol Trefi Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 18 Ion 2022

Arolwg Cyhoeddus o Ymwelwyr â Chanol Trefi Bwrdeistref Sirol Caerffili


Gofynnir i ymwelwyr â chanol trefi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili am eu barn er mwyn helpu i benderfynu ar y dull o godi tâl am barcio yn y dyfodol yng nghanol ein trefi.

Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sefydlu grŵp tasg a gorffen i adolygu taliadau parcio ceir yng nghanol y dref, yng ngoleuni effeithiau'r pandemig ar economi'r stryd fawr. Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 15 munud i'w gwblhau.

Fel rhan o'u gwaith, mae ganddyn nhw ddiddordeb gwybod pa drefi y mae pobl yn ymweld â nhw, eu rhesymau dros ddewis tref benodol a sut y mae pobl yn teithio yno.

Gellir gofyn am gopiau papur drwy e-bost oddi wrth craffu@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864279. Mae angen dychwelyd ffurflenni erbyn 2 Chwefror 2022.

Arolwg Cyhoeddus o Ymwelwyr â Chanol Trefi Bwrdeistref Sirol Caerffili



Ymholiadau'r Cyfryngau