News Centre

Hyd at £3000 o grantiau ar gael i sefydliadau dielw

Postiwyd ar : 12 Ion 2022

Hyd at £3000 o grantiau ar gael i sefydliadau dielw
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cronfa Gymunedol Viridor a’r Prosiect Gwyrdd.
 
Mae Cronfa Gymunedol Viridor a’r Prosiect Gwyrdd yn rhodd o £50,000 y flwyddyn y mae’r busnes, Viridor, wedi ymrwymo i sicrhau ei bod ar gael i fentrau cymunedol sy'n gweithredu yn y rhanbarthau awdurdod lleol sy'n rhan o’r Prosiect Gwyrdd, sef Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg.
 
Roedd y rhodd ar gael gyntaf yn 2016 a bydd ar gael bob mis Ebrill am 25 mlynedd.
 
Bydd cyllido prosiectau yn cael ei ddyfarnu yn erbyn meini prawf yn seiliedig ar gynaliadwyedd, angen lleol, cynnwys y gymuned, gwerth am arian ac addysg. Bydd pob prosiect sy'n cwrdd â gofynion y cais cychwynnol hyn yn cael ei sgorio ar 10 ffactor:
 
  • Angen lleol
  • Cyfranogiad cymunedol, partneriaeth a budd, cynaliadwyedd
  • Budd amgylcheddol
  • Addysg, dysgu gydol oes a sgiliau, gwerth am arian
  • Cynhwysiant cymdeithasol ac ehangder yr ymgysylltu
  • Ymgysylltu ag amrywiaeth o bwyntiau mynediad
  • Prosiectau sy'n cynnig budd cryf yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM)
  • Prosiectau o fewn ffin awdurdod lleol Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident
 
Rhaid i geisiadau sgorio lleiafswm o 7 pwynt o'r 10 pwynt sydd ar gael i fod yn gymwys i gael cyllid.
 
Gall unrhyw sefydliad neu grŵp, sydd wedi'i gyfansoddi'n briodol, nid-er-elw ac nad yw'n cael ei reoli gan awdurdod lleol, wneud cais am gyllid. Mae prosiectau wedi'u cyfyngu i wneud cais am un prosiect y flwyddyn ac uchafswm y cyllid a fydd yn cael ei roi yw £3,000 y prosiect.
 
Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho yma.

Dychwelwch ffurflenni wedi'u llenwi drwy e-bost i cardifferfcommunityfund@viridor.co.uk neu drwy'r post i'r cyfeiriad canlynol: ERF Community Fund Viridor Administrator, Harrison House, Blackbrook Park Avenue, Taunton, Somerset, TA1 2PX.


Ymholiadau'r Cyfryngau