News Centre

Masnachwyr twyllodrus wedi’u dod o flaen eu gwell

Postiwyd ar : 05 Ion 2022

Masnachwyr twyllodrus wedi’u dod o flaen eu gwell
Mae Timau Safonau Masnach yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr o adeiladwyr twyllodrus.

Ar 21 Rhagfyr 2021 yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Alan Lee, 48 oed o ardal Drenewydd Gelli-farch, Caerdydd, a Gareth James Robinson, 41 oed o’r Rhath, Caerdydd, eu dedfrydu ar ôl iddyn nhw bledio'n euog yn flaenorol i 2 gyhuddiad yr un o weithredu a chymryd rhan mewn busnes twyllodrus. Cafodd Lee, a oedd yn masnachu i ddechrau fel AL Construction ac yn ddiweddarach fel Capital Construction, ei ddedfrydu i 6 blynedd a 10 mis o garchar a Robinson, “ei bartner busnes”, i 3 blynedd a 4 mis o garchar. Clywodd y Llys fod y pâr wedi twyllo 24 o ddioddefwyr. Mewn perthynas â Lee, digwyddodd y troseddu yn dilyn euogfarn flaenorol o dwyllo yn 2018, lle cafodd ddedfryd ohiriedig o garchar. At hynny, roedd llawer o'r twyllo hwn wedi digwydd tra roedd e’n aros am ddedfryd am gyhuddiadau pellach.

Cafodd yr erlyniad ei arwain gan Gyngor Bro Morgannwg, sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir, sef partneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont, Cyngor Caerdydd, a Chyngor Bro Morgannwg, ac roedd yn ganlyniad ymchwiliad ar y cyd gan dimau’r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir a Safonau Masnach Caerffili.
Yn ystod yr achos, cafodd Lee ei ddisgrifio fel, “person taer, anonest, ymosodol a brawychus sy’n disgrifio’i hun fel adeiladwr. Mae e’n gweithio mewn ffordd systematig, fwriadol, dwyllodrus, wedi’i chynllunio ymlaen llaw. Mae e’n targedu pobl oedrannus a/neu agored i niwed. Dros y cyfnod, honnodd e dro ar ôl tro fod angen gwaith i gartrefi defnyddwyr, fel arfer gwaith toi, pan nad oedd ei angen. Byddai e’n hawlio miloedd o bunnoedd am waith nad oedd ei angen ac y byddai e bron bob amser yn darganfod, mewn ffordd anonest, fod gwaith pellach y byddai e’n honni sy’n hanfodol.”

Mae gwerth amcangyfrifedig y twyllo hwn, sy'n cynnwys 24 o ddefnyddwyr ledled de-ddwyrain Cymru, rhai ohonyn nhw yn oedrannus a/neu'n agored i niwed, oddeutu £556,000 gyda rhai defnyddwyr yn colli mwy na £80,000. Nid oes modd nodi'r effaith ar y defnyddwyr yn hawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â chyfrifoldeb am Ddiogelwch y Cyhoedd, “Mae hwn yn ganlyniad gwych i’n trigolion bod cyfiawnder wedi’i gyflawni. Er and yw’r erlyniad hwn yn gallu dileu dioddefaint y dioddefwyr, rwy’n gobeithio ei fod yn gallu eu sicrhau nhw na fydd hyn yn digwydd i eraill a’u bod nhw’n gallu cael eu digolledu am eu colledion ariannol nhw. Mae'r canlyniad hwn yn dyst i'r ymchwiliad cadarn mae ein Tîm Safonau Masnach ni wedi’i gynnal ac rydyn ni’n falch iawn o sicrhau erlyniad llwyddiannus arall.”

Os oes gennych chi rywbeth yr hoffech chi ei roi gwybod amdano i'r Tîm Safonau Masnach, ewch i www.caerphilly.gov.uk/Business/Trading-standards?lang=cy-gb neu ffonio 01443 811300.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau