News Centre

Grant Datblygu Disgyblion 2021/22 – wedi'i ymestyn i grwpiau blwyddyn ychwanegol

Postiwyd ar : 20 Ion 2022

Grant Datblygu Disgyblion 2021/22 – wedi'i ymestyn i grwpiau blwyddyn ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y Grant Datblygu Disgyblion i gynnwys grwpiau blwyddyn ychwanegol ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 yn unig.

Gall rhieni disgyblion cymwys ar gyfer blynyddoedd 2, 4 a 6 wneud cais nawr.

Noder – NID YW ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (Medi 2022 – Gorffennaf 2023) AR AGOR tan FIS GORFFENNAF 2022.

Mae hyn i gydnabod y pwysau eithafol sy'n wynebu llawer o deuluoedd, a'r cynnydd dilynol mewn cymhwysedd i gael Prydau Ysgol am Ddim. Mae’r grant bellach ar gael i bob blwyddyn ysgol – o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais neu wedi cael taliad ar gyfer disgybl blwyddyn 2, 4, neu 6 o dan feini prawf y Grant Datblygu Disgyblion 2021/22, yna nid ydych chi'n gallu gwneud cais y flwyddyn academaidd hon.

Gall y grant am £125 (ac eithrio blwyddyn 7, sef grant am £200) gael ei ddefnyddio i brynu gwisg ysgol, offer, dillad chwaraeon a dillad ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn chi.

Mae manylion ar sut i hawlio, ynghyd â’r telerau ac amodau, i’w gweld isod. www.caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau