Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2022
Dedfryd o garchar i fridiwr cŵn didrwydded o Gaerffili
News Centre
Dedfryd o garchar i fridiwr cŵn didrwydded o Gaerffili
Postiwyd ar : 19 Ion 2022
Mae dyn o Gaerffili wedi'i ddedfrydu am fridio cŵn heb drwydded o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Cafodd Jedd Wiegold (32 oed), Keble Court, Machen, Caerffili, ddedfryd o garchar yn Llys Ynadon Casnewydd ar 11 Ionawr 2022 am fridio cŵn heb drwydded a nifer o droseddau anffurfio. Cafodd ei ddedfrydu i bum mis o garchar am bob un o'r pum trosedd wahanol, a'r cyfan yn cydredeg. Mae Wiegold eisoes yn bwrw dedfryd o garchar am droseddau nad ydyn nhw'n gysylltiedig.
Ers hynny, mae Wiegold wedi'i wahardd rhag bod yn berchen ar gŵn, cadw cŵn a chludo cŵn am ddeng mlynedd, gyda chyfyngiad am saith mlynedd ar wneud cais am godi'r gwaharddiad.
Mae'r ddedfryd yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Caerffili ar ôl i wybodaeth am fridio cŵn a thocio clustiau gael ei rhoi gan yr Heddlu yn dilyn ymchwiliad i faterion nad ydyn nhw'n gysylltiedig.
Mae tystiolaeth yn yr achos yn dangos bod Wiegold wedi bod yn bridio cŵn bach American Bully, a'u gwerthu nhw, ers o leiaf ddwy flynedd. Rhwng 24 Mawrth 2019 a 23 Mawrth 2020, bu Wiegold yn berchen ar fwy na thair gast fridio a thorraid, eu bridio a'u hysbysebu.
Cafodd ei waith bridio cŵn a bod ganddo gŵn bach ar werth eu hysbysebu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
(sef y dudalen ‘Wild Tri Bullys’ ar Facebook, y dudalen ‘South Wales bullys’ ar Instagram, a'r dudalen ‘Wild Tri Bullys World’ ar Instagram).
Nid yw maint llawn ei enillion yn hysbys, ond cafodd cŵn bach eu hysbysebu am symiau rhwng £4,000 a £6,500, ac mewn rhai achosion, hyd at £10,000 am gi bach.
Roedd tystiolaeth a ddaeth o'i ffôn symudol hefyd yn dangos bod Wiegold yn rhan o drefnu/achosi anffurfio drwy docio clustiau cŵn bach. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y driniaeth ei hun wedi'i chyflawni gan drydydd parti anhysbys.
Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch y Cyhoedd, “Mae'r galw am fridiau ffasiynol o gŵn bach bob amser yn uchel, felly, gall fod yn fusnes sy'n dwyn elw mawr iawn. Rydyn ni'n falch o ganlyniad y ddedfryd ac yn gobeithio y bydd yn rhybudd i droseddwyr eraill sy'n ystyried cymryd mantais ar anifeiliaid i wneud elw ariannol.
“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am fridwyr didrwydded posibl, cysylltwch â'r timau Safonau Masnach neu Drwyddedu.”
SafonauMasnach@caerffili.gov.uk
/
Trwyddedu@caerffili.gov.uk
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y