Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2022
Cynigion cyffrous i drawsnewid Canol Tref Caerffili
News Centre
Cynigion cyffrous i drawsnewid Canol Tref Caerffili
Postiwyd ar : 25 Ion 2022
Mae Arweinydd Cyngor Caerffili wedi datgelu glasbrint cyffrous ar gyfer trawsnewid canol tref Caerffili a’r ardal gyfagos yn y dyfodol, cefnogir gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae’r Cynghorydd Philippa Marsden wedi cyhoeddi manylion pecyn uchelgeisiol o brosiectau adfywio a fydd yn helpu trawsnewid y dref dros y blynyddoedd nesaf.
Mae prif elfennau rhaglen ‘Caerffili 2035’ yn cynnwys:
Cyfnewidfa drafnidiaeth newydd gwerth £30 miliwn yng nghanol y dref
Datblygiad manwerthu a phreswyl cymysg mawr gwerth £15 miliwn
Adeiladu gwesty bwtîc newydd yn Park Lane
Buddsoddiad o £5 miliwn mewn cyfleusterau newydd i ymwelwyr yng nghastell hanesyddol Caerffili
Cynlluniau i greu ardal hamdden newydd uchelgeisiol yn cynnig cyfleoedd hamdden, manwerthu, masnachol a busnes newydd yng nghanol y dref.
“Rydyn ni'n gyffrous i lansio’r glasbrint hir ddisgwyliedig hwn i ailddatblygu tref Caerffili fel rhan o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru,” dywedodd y Cynghorydd Marsden. “Mae prosiect Caerffili 2035 yn gynllun uchelgeisiol sy’n nodi dyheadau i addasu ac esblygu’r dref dros y 15 mlynedd nesaf. Cyfres o uchelgeisiau craidd, gan gynnwys meysydd ymyrraeth allweddol a set glir o brosiectau sy'n gallu cael eu datblygu a'u gweithredu i arwain twf, i wneud Caerffili yn ganol tref fwy amrywiol a llwyddiannus."
Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Adfywio, “Dros y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt, byddwn ni'n gweld buddsoddiad sylweddol i drawsnewid canol tref Caerffili a, drwy weithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n gobeithio y bydd cyflawni’r prosiectau hyn yn cynorthwyo’r ymdrech i adfer yn sgil COVID-19 ac yn sicrhau bod Caerffili yn parhau i fod yn lle gwych i wneud busnes, nawr ac yn y dyfodol.”
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chaerffili i adfywio canol y dref fel un o gamau gweithredu allweddol Tasglu’r Cymoedd. Mae’r Cynllun Llunio Lleoedd rydyn ni’n ei ariannu bellach yn dwyn ffrwyth, ac mae rhaglen o fuddsoddiadau y gallwn ni ei helpu drwy ein cronfa Trawsnewid Trefi ni, a fydd yn gwneud llawer i sicrhau bod Caerffili yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”
Aeth yn ei blaen, “Bydd y buddsoddiad hwn yn ategu ein Strategaeth Llunio Lleoedd gyfredol ni sy’n golygu bod £500 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r cynlluniau cyffrous hyn ar ein gwefan bwrpasol ni, Llunio Lleoedd
www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/
"
Bydd rhagor o wybodaeth am yr elfennau amrywiol o fewn glasbrint Caerffili 2035 yn cael ei chyhoeddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros y misoedd nesaf wrth i wahanol agweddau o'r cynllun yn symud ymlaen.
I weld manylion prosiectau Caerffili 2035, ewch i'r wefan bwrpasol:
https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y