News Centre

Cronfa Argyfwng i Fusnesau – ar agor i geisiadau

Postiwyd ar : 17 Ion 2022

Cronfa Argyfwng i Fusnesau – ar agor i geisiadau

Gall busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan ledaeniad cyflym feirws Omicron wneud cais am gymorth ariannol brys dan becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Diben y cynllun grant yw cefnogi busnesau yn y sectorau hamdden, twristiaeth, manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn talu ardrethi busnes ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer y gronfa Cadernid Economaidd, gyda'u llif arian uniongyrchol a'u helpu i oroesi canlyniadau economaidd cyfyngiadau ychwanegol a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 sy'n angenrheidiol i reoli lledaeniad Covid-19.

Bwriedir i'r cyllid ymdrin ag effaith busnes o 13 Rhagfyr 2021 hyd at 14 Chwefror 2022. Yn benodol, bydd yr EBF yn cefnogi busnesau sydd naill ai:

Grant A:

Taliad grant arian parod o £1,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu a'r gadwyn gyflenwi gysylltiedig nad ydynt yn cyflogi unrhyw un ar wahân i'r perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol.

Grant B:

Taliad grant ariannol o £2,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden a'r gadwyn gyflenwi gysylltiedig sy'n cyflogi staff drwy PAYE (yn ogystal â'r perchennog).

Bydd y grant ar agor i geisiadau o'r wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr 2022, ac yn cau am 5.00pm ar y 14 Chwefror 2022.

Mwy o wybodaeth ar ein gwefan www.caerffili.gov.uk 



Ymholiadau'r Cyfryngau