News Centre

Clwb STEM Ysgol Gynradd Deri yn ennill £2,000 ar gyfer yr ysgol!

Postiwyd ar : 25 Ion 2022

Clwb STEM Ysgol Gynradd Deri yn ennill £2,000 ar gyfer yr ysgol!
Fel rhan o’u clwb gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ar ôl ysgol, cymerodd disgyblion Ysgol Gynradd Deri ran yng nghystadleuaeth 'Rees Jeffreys Road Fund'.
 
Cafodd y plant eu hannog i feddwl am ateb i wneud ein ffyrdd ni yn fwy diogel a arweiniodd at greu traffordd symudol.
 
Bydd y draffordd sy'n cael ei phweru gan yr haul, sydd wedi'i gwneud o blastig wedi'i ailgylchu, yn symud fel cludfelt i gludo ceir ar draws pellteroedd hir. Bydd hyn yn helpu lleihau damweiniau ar y ffyrdd drwy gyfyngu ar gyfleoedd i bobl dorri'r terfyn cyflymder yn ogystal â lleihau allyriadau ceir. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â ffyrdd mwy diogel o deithio i ni a'n planed ni. 
 
Roedd y panel yn llawn edmygedd bod “y plant wedi defnyddio eu sgiliau STEM nhw i beiriannu eu priffordd symudol eu hunain. Roedd yn amlwg bod y plant eu hunain wedi creu’r syniadau craidd.”
 
Daeth Ysgol Gynradd Deri yn ail yn y gystadleuaeth gan ennill £2,000 ar gyfer yr ysgol.
Roedd yr holl staff a disgyblion wrth eu bodd gyda’r newyddion ac yn edrych ymlaen at brynu mwy o adnoddau cyffrous i wella dysgu plant yn y meysydd STEM.
 
Dywedodd Susan Martin, Pennaeth Ysgol Gynradd Deri, “Rydyn ni mor falch o waith y plant. Roedden nhw'n dangos penderfyniad mawr i ddatrys problemau bywyd go iawn gan ddefnyddio eu gwybodaeth STEM. Rydw i'n meddwl bod gan bob un ohonyn nhw ddyfodol mewn peirianneg neu ddylunio. Maen nhw’n enghraifft wych o gyfranwyr mentrus, creadigol sydd ymhell ar eu ffordd i fod yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith yn y dyfodol.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu, “Am gyflawniad gwych i Ysgol Gynradd Deri. Dylai disgyblion y clwb STEM fod yn falch iawn o'u hunain am eu creadigrwydd a’u brwdfrydedd nhw tuag at greu amgylchedd mwy diogel i eraill yn ogystal ag ystyried yr amgylchedd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau