News Centre

Y Cyngor yn atgoffa trigolion i fynegi barn ar berchentyaeth cost isel

Postiwyd ar : 06 Ion 2022

Y Cyngor yn atgoffa trigolion i fynegi barn ar berchentyaeth cost isel
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa trigolion i ddweud eu dweud ar ei gynigion i gyflwyno polisi perchentyaeth cost isel.
 
Dangosodd asesiad diweddar o'r farchnad dai leol, a gafodd ei gynnal gan y Cyngor, fod angen mawr ledled y Fwrdeistref Sirol am amrywiaeth o dai fforddiadwy o ansawdd da, gan gynnwys llety rhent cymdeithasol a pherchentyaeth cost isel.

Mewn ymateb, mae'r Cyngor wedi datgelu cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu cymunedau cymysg a chynaliadwy lle mae pobl eisiau byw ac sy'n hybu iechyd a lles. Mae'n bwriadu gwneud hyn drwy ddarparu amrywiaeth o dai fforddiadwy o ansawdd da, a fydd yn cael eu darparu drwy'r system gynllunio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai lleol a thrwy ei raglen adeiladu newydd arloesol ei hun.

Nod perchentyaeth cost isel yw helpu'r rhai sydd ar incwm is i brynu eu cartref eu hunain. Mae'r Cyngor yn gofyn i'r cyhoedd roi eu barn ar bolisi drafft ar gyfer perchentyaeth cost isel yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys cymhwysedd a blaenoriaeth.

I gymryd rhan yn yr arolwg. Bydd yr arolwg yn dod i ben ddydd Mercher 19 Ionawr 2022.

Bydd yr ymatebion yn cael eu defnyddio i gwblhau'r polisi drafft y bydd gofyn i gabinet y Cyngor ei adolygu a'i gymeradwyo.

Am ragor o wybodaeth, neu os na allwch chi lenwi'r ffurflen ar-lein, ffoniwch 01443 811380 neu e-bostio StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau