News Centre

Y Cyngor yn atgoffa trigolion cymwys bod help ar gael ar gyfer costau tanwydd gaeaf

Postiwyd ar : 12 Ion 2022

Y Cyngor yn atgoffa trigolion cymwys bod help ar gael ar gyfer costau tanwydd gaeaf
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa trigolion cymwys bod help ar gael drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.

Os yw trigolion yn derbyn budd-daliadau oedran gweithio – fel Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm, Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredydau Treth Gwaith – mae'n bosibl eu bod nhw'n gymwys i gael £100 i helpu gyda chost eu biliau ynni nhw.

Gall trigolion wneud cais drwy ymweld â gwefan y Cyngor.

Rhaid cyflwyno cais erbyn 18 Chwefror 2022, a bydd y swm yn cael ei dalu rhwng Ionawr 2022 a 31 Mawrth 2022.

 


Ymholiadau'r Cyfryngau